Oherwydd, yn y pen draw, adlewyrchu y mae gweithiau a rhagymadroddion y dyneiddwyr Cymraeg deimladau ac agweddau meddwl a oedd yn cyniwair drwy Orllewin Ewrop i gyd.
Cyfrwng yw'r rhagymadroddion, yn y lle cyntaf, i gyfarch a rhyngu bodd noddwyr ac arweinwyr cymdeithas; ac yn yr ail le, a hyn sydd bwysicaf o ddigon, i roi cyfle i'r awduron eu hunain egluro eu bwriadau a'u cymhellion.
Un o nodweddion amlycaf y rhagymadroddion yw'r ymdeimlad o wladgarwch cynnes, a thanbaid yn wir, sy'n rhedeg drwyddynt.
Yn eu rhagymadroddion a'u cyflwyniadau gadawodd y dyneiddwyr inni gorff o ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Lladin, sy'n allwedd, na cheir mo'i thebyg mewn cyfnodau eraill, i ddeall meddwl a chalon cyfnod.