Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.
Mae aelodaeth y paneli a'r gweithgorau hyn yn adlewyrchu amryfal agweddau ar addysg Gymraeg, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r gwahanol sectorau addysg a rhanbarthau Cymru.
Nid y rhanbarthau'n unig sy'n falch mai Mr Major fydd yno ac nid ei ragflaenydd - mae Ewrop gyfan yn anadlu anadl o ryddhad mai nid hi fydd yno ar ôl ei haraith ddi-gyfaddawd nos Fercher ddiwethaf.
Ni fydd hyn yn tanseilio hawl ein celloedd lleol a'n rhanbarthau i drefnu ymgyrchoedd i amddiffyn buddiannau cymunedau lleol yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd canolog yn yr ardal.
Ond pa hwyl mae rhanbarthau eraill yn eu cael?
Byddai trefniadaeth ein rhanbarthau yn aros fel y mae ynghyd â'u cyfrifoldebau allweddol.
Cydnabuwyd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud eisoes ym maes datblygu cynlluniau rhaglenni newyddion a materion cyfoes yn y Rhanbarthau Cenedlaethol, ond mae angen mwy o fanylion am y ffordd y mae rhwydweithiau cenedlaethol y BBC yn paratoi i ystyried y newidiadau mawr sydd ar fin effeithio ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Fe wnaeth - - y pwynt fod syniadau a sgriptiau da yn mynd i fod yn faes cystadleuol hefyd o ganlyniad i gynllun y BBC i ddatblygu drama yn y rhanbarthau.
Un cynnig nad yw wedi derbyn y sylw dyledus yw'r cymal sy'n argymell sefydlu Cyngor Rhanbarthau i Ewrop.
Gyda methiant y canol i greu consensws o fewn gwlad sy'n prysur ymffurfio'n rhanbarthau economaidd a diwylliannol, nid yw'n destun syndod y bydd y pleidiau rhanbarthol yn chwarae rhan allweddol yn y senedd newydd.
Mae hyn yn dangos yn glir y gwendidau sydd yn y sylfaen gyflogaeth yng Ngwynedd o'i chymharu â siroedd a rhanbarthau eraill.
Rhanbarthau a Chelloedd.
Dylai'r Cynulliad chwarae rhan i gryfhau rôl y Rhanbarthau yn Ewrop.
Ar wahan i'r ffaith fod y Gymuned yn sôn yn wastadol am holl bobloedd Ewrop ac yn trosglwyddo adnoddau (yn raddol) i'r rhanbarthau tlotaf, pa sail sydd dros gredu y bydd yn debygol o greu polisiau a fedrai hyrwyddo symudiad at Ewrop y taleithau?
Dadleuai rhai, megis yn arbennig D. J. Davies, Pantybeiliau, fod y Blaid yn gwario gormod o'i hadnoddau ar yr ardaloedd Cymraeg gan esgeuluso'r rhanbarthau poblog Seisnigedig yn y De-ddwyrain.
Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.
Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.