Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhaniad

rhaniad

Nid oes rhaniad pendant rhwng disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a'r disgyblion eraill.

Maent yn edrych ar: a) sut y mae rhaniadau rhwng grwpiau iaith yn cysylltu efo rhaniad dosbarth, ac efo cysylltiadau economaidd a gwleidyddol o fewn y fframwaith wladwriaethol b) y prosesau o rym sy'n bodoli o fewn y gymuned, a sut y mae cysylltiadau grym yn cael eu hadgynhyrchu c) natur y gwrthdaro sy'n digwydd o fewn cymunedau o ganlyniad i'r cysylltiadau grym sy'n bodoli.

Unwaith yn rhagor mae'r patrwm uchod yn adlewyrchu patrwm y sampl o ran rhaniad oedran.

Hwyrach mai dynion yw mwyafrif aelodau'r Gymdeithas Gerdd Dafod a bod hyn yn esbonio'r rhaniad uchod, a dylid cofio bod yr aelodau yn derbyn copi o'r cylchgrawn fel rhan o'u tâl aelodaeth.

Dengys y siart isod bod menywod yn ffurfio mwyafrif bach ymhlith y rhai a ddychwelodd yr holiadur, ond mae'r rhaniad yma yn adlewyrchiad eithaf cywir o'r Cymry Cymraeg.

Credwn hefyd bod y rhaniad oedran uchod yn adlewyrchiad teg o'r Cymry Cymraeg yng Nghymru heddiw, ac felly rydym yn hyderus o ddilysrwydd y sampl o ran rhyw ac oedran.

Ac y mae'r rhaniad yma rhwng dau fath o Gymry wedi nodweddu ein bywyd cenedlaethol trwy'r blynyddoedd.

Gwelwn fod patrwm darllenwyr a phrynwyr Barn fwy neu lai yn dilyn patrwm rhaniad oedran y sampl.

Y rhaniad sylfaenol, meddai Cradoc, yw hwnnw rhwng saint a phechaduriaid, nid y rhaniadau rhwng Eglwyswyr, Presbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr.

Nid oedd yn rhaniad mor glir â hynny chwaith, ni allai fod; ond y mae'n ddeuoliaeth ddiddorol.