Darganfuwyd hefyd fod ystyriaethau gwleidyddol a diwylliannol, megis hen ffiniau gwleidyddol, yn cael eu hadlewyrchu yn llwybr yr isoglosau (y llinellau a osodir ar fap i nodi ffiniau ymestyniad daearyddol y ffurfiau dan sylw), a bod rhaniadau tafodieithol yn gallu adlewyrchu rhaniadau pell yn ôl.
Maent yn edrych ar: a) sut y mae rhaniadau rhwng grwpiau iaith yn cysylltu efo rhaniad dosbarth, ac efo cysylltiadau economaidd a gwleidyddol o fewn y fframwaith wladwriaethol b) y prosesau o rym sy'n bodoli o fewn y gymuned, a sut y mae cysylltiadau grym yn cael eu hadgynhyrchu c) natur y gwrthdaro sy'n digwydd o fewn cymunedau o ganlyniad i'r cysylltiadau grym sy'n bodoli.
Gwelwyd o brofiad fod ffeiliau bwa-lifer neu ffeiliau clo-crwn gyda rhestr gynnwys a rhaniadau wedi eu labelu yn ffordd dda o gadw'r gwaith mewn trefn.
O'r pedwar ban ac ar eingion amser y lluniwyd inni wreiddiau i brofi sut y meithrinwyd brogarwch, capelgarwch, ysgolgarwch a thylwythgarwch, a dysgu drwy brofiad sut y gwnaeth gwaed a gwead greu un gymdeithas ddi- ddosbarth er bod rhaniadau emosiynol ynddi, megis rhwng capel ac eglwys, llawr gwlad a'r mynydd.
Sylfaen y gymdeithas sefydlog oedd yr uned boliticaidd gyda'i rhaniadau a'i dosbarthiadau trefniadol.
Y rhaniad sylfaenol, meddai Cradoc, yw hwnnw rhwng saint a phechaduriaid, nid y rhaniadau rhwng Eglwyswyr, Presbyteriaid, Bedyddwyr ac Annibynwyr.