Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhannodd

rhannodd

Rhannodd y ddau bartneriaeth enfawr o 250 am y chweched wiced.

Rhannodd Gideon ei filwyr yn dair mintai a rhoes utgorn a phiser yn llaw pob dyn.

Rhannodd Smith a Mike Powell 67 am y seithfed wiced.

Rhannodd yr eiddo, gymaint ag ydoedd, cyn dyfod y dyddiau blin, ond arhosodd Phil yn annibynnol i'r diwedd, ac yn fodlon ar y defnydd a oedd ynddo ef ei hun.

Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.

Gyda Chunedda yr oedd ei wyth mab, ac wedi'r fuddugoliaeth rhannodd ef y tiriogaethau a goncrwyd rhyngddynt.

Mae Craig White 89 heb fod mâs a rhannodd e a Thorpe bartneriaeth o 166 am y chweched wiced.

Ymddeolodd yntau o'r mor tua'r un adeg ag y dychwelodd Snowt o Lundain, a chan eu bod yn dioddef o'r un syched, aeth y ddau'n dra chyfeillgar, a phan drowyd Sam dros yr hiniog gan wraig ei lety rhannodd Snowt ei lety gydag ef.

Rhannodd ei arian rhwng ei bedair poced a rhoi hances wen yn bigyn twt yn yr uchaf.

Rhannodd y Rhyfel Cartref yn Sbaen bob gwlad a chenedl lle ceid gwrthdaro rhwng Gwrthryfel ac Adwaith.

Peidiodd Y Rhondda a bod yn gwm diwydiannol a rhannodd gydag ardaloedd tebyg y cyfnewidiadau ysgytiol a ddilynodd gwymp yr hen ddiwydiannau trymion - glo, dur a llechi.

Ar ôl i bedair o wicedi Sri Lanka syrthio cyn cinio rhannodd Mahela Jayawardene a Russel Arnold 142 am y bumed wiced.