Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhannol

rhannol

Yn rhannol o argyhoeddiad, yn bennaf rhag creu lle i Gwydion a'r bychan edliw.' 'Pwy ydi'r bychan?

Mewn brawddeg, felly, gellir disgrifio'r model a bortreadir yn Ffigur I fel model cydbwysedd rhannol, tymor byr, dau sector.

Yn sgil grym y tractor a'r JCBs a pheiriannau eraill, y diwydiant agrocemegol, had gwell a phatrymau newydd o werthu ac o ddosbarthu, fe chwalwyd y ddibyniaeth ar lafur a'r gyfundrefn rhannol hunan-gynhaliol.

Nid bywyd ynysig ar wahân i'r boblogaeth ehangach yw gwleidydda yma, yn rhannol efallai am nad symud yma a wnaeth yr aelodau mwyaf gweithgar.

Mae wedi cyfaddef hynny ei hun; ond dim ond yn rhannol.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol o'r fath yn bur wahanol o ran natur i'r model cydbwysedd rhannol a geir yn Ffigur I, ond - a chymryd bod elfen o anystwythder yn perthyn i brisiau, ac yn arbennig felly i gyflogau a chyfraddau llog - fe fyddai casgliadau sylfaenol ein model dechreuol yn dal i sefyll: sef bod cydbwysedd yn bosibl gyda lefel uchel o ddiweithdra; ac y byddai'n rhaid i'r llywodraeth - er mwyn sicrhau lefel cyflogaeth uchel a sefydlog - reoli'r galw cyfanredol trwy defnyddio arfau cyllidol.

ac mae'n bosibl mai rhagweld dyfodol ansicr yn Awstralia fu'n rhannol gyfrifol am farwolaeth Twm Polion.

Berlin oedd canolbwynt y cynnwrf hwnnw yn yr Almaen, yn rhannol o ganlyniad i'w statws gwleidyddol a'i safle daearyddol rhwng dau brif bþer y dydd.

Byddai'n rhaid, mewn geiriau eraill, gyfnewid y model rhannol a geir yn Ffigur I, model sy'n ceisio dadansoddi'r farchnad nwyddau ar wahân i farchnadoedd eraill, am fodel cyffredinol, model a fyddai'n ceisio dadansoddi'r gydberthynas rhwng y gwahanol farchnadoedd hyn a'i gilydd.

Am ba hyd, hyd yn oed yn rhannol?

Mae mawnogydd hefyd yn cynnwys carbon sydd, ar ffurf carbon deuocsid, yn rhannol gyfrifol am yr Effaith Tŷ Gwydr.

Yma, mae CLEDWYN FYCHAN yn disgrifio dwy daith ddifyr y gallwch eu gwneud yn rhannol mewn car ac yn rhannol ar droed.

Bydd hyn yr un mor berthnasol i gynlluniau a ariannir yn rhannol gan Grantiau o'r Swyddfa Gymreig.

'Roedd yr egwyddor hon wedi'i hawgrymu yn rhannol gan y rhybudd yn yr Efengylau rhag taflu perlau o flaen y moch, ac yn rhannol gan y gred bod yn rhaid cyflwyno gwirionedd yn raddol er mwyn ei amgyffred yn llawn.

Ond efallai i'r cynllun gael ei ddiddymu am fod Cromwell yn rhannol yn ofni y defnyddiai'r Major-General Harrison ei afael ar Gymru i'w throi yn bwerdy iddo'i hun (na, nid adwaenent Gymru).

Y teimlad oedd fod diffyg gwybodaeth am hynny wedi bod yn rhannol gyfrifol am fethiant y protestiadau gwreiddiol.

Byddai'r saer coed a'r gof yn rhannol gyfrifol am wneud olwyn, bydded olwyn gert neu olwyn i ferfa.

Fel y gwelir ar y mapiau, plwyf tair anglog cymharol fychan o ryw bedair mil o gyfeiriau yw Llangwyryfon, ac y mae'r stori hon amdano yn cyfeirio yn rhannol hefyd at y pum plwyf sy dros y ffin iddo.

Ymysg y pethau a ddarganfuwyd yn y pentref ei hun yr oedd tlws o efydd a thorch wedi'i gwneud yn rhannol o aur.

Ar ddechrau'r chwyldro, cafodd aelodau eglwysig eu herlid, yn rhannol oherwydd eu ceidwadaeth a'u rhagrith honedig, ond hefyd gan eu bod wedi rhoi lloches i wrthwynebwyr y chwyldro yn eu haddoldai.

Mae hyn yn rhannol oherwydd effaith y technegau eu hunain ar anifeiliaid a hefyd oherwydd yr egwyddor ehangach na ddylai dynion ymyrryd mewn dulliau naturiol o genhedlu.

Y mae'n beio'n rhannol feirniaid a chynhalwyr eisteddfodau'r gorffennol na ddigwyddodd hynny.

Yn y dyfodol, fe'u cyllidir yn rhannol gan y Lwfans Rheolaeth Anghenion Arbennig.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Oddi ar hynny yr ydym wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda'r weinyddiaeth Lafur ar bob lefel yn dilyn ail ddyfodiad rhannol democratiaeth ar ôl 1997.

Y mae'r llechweddau rhwng y ddwy ardal yn cyfranogi'n rhannol o'r naill a'r llall.

Oddi ar hynny yr ydym wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda'r weinyddiaeth Lafur ar bob lefel yn dilyn ail ddyfodiad rhannol democratiaeth ar ol 1997.

Cydymffurfio a'r patrwm yn unig a wna'r gwirionedd rhannol yma mae'n anelu ato.

Dibynna'n rhannol ar waith Nashe, An Almond for a Parrat.

Priodolai Burgess hyn yn rhannol i Seisnigrwydd yr Eglwys Wladol ac anallu ei chlerigwyr i bregethu yn Gymraeg, a gwnaeth ei orau i osod clerigwyr Cymraeg eu hiaith mewn plwyfi Cymraeg.

Hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl, byddai eu hanner yn llenwi ffurflen trwyddedu cerbyd yn Saesneg, yn rhannol oherwydd eu bod yn credu fod y fersiwn Saesneg yn eglurach na'r un Cymraeg.

Parhau a wnaeth problemau'r newyn yn Ethiopia wedi'n hymweliad cyntaf ni, yn rhannol oherwydd y rhyfela yn y wlad.

Roedd hi'n wir mai sychder mawr oedd yn rhannol gyfrifol am y newyn hwn hefyd.

Chwaraeodd y lleuad ran mewn her arall i BBC Radio Wales, sef eclips rhannol yr haul ym mis Awst.

Er hynny erys awgrym fod ef ei hun yn rhannol o leiaf i'w feio am ei drafferthion.

Comisiwn y Mileniwm dalodd yn rhannol am y cynllun gwerth dros £40m.

Rhaid i mi gyfadde mod i wedi mwynhau llawer o'r hysbysebion ar y teledu, yn rhannol am eu bod nhw mor wael!