"Bob yn ail ddiwrnod," ebe Owen Owens, gan aros i boeri i'r tân, 'y ngwaith i oedd mynd lan ar hyd llwybr mynydd i ryw hen dŷ allan tua milltir o'r tŷ ffarm, a llanw'r rhastal â gwair o'r dowlad, a rhoi gwellt glân o dan y bustych ac edrych eu bod nhw'n iawn.
Er mawr syndod i fi, pan gyrhaeddes i roedd y bustych yn byta'n braf ar wair ffres, a'r rhastal yn hanner llawn.