Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhaw

rhaw

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Criw o ddynion y Cyngor Sir fyddai'n mynd i'r afael ag o a dim rheitiach na rhaw bob un i'w daclo.

'Rŵan,' gollyngodd y cawr ei afael ynddo, 'cymer di'r rhaw fach yna a gad i mi dy weld yn turio am y trysor.

Fel y poethai'r cnau byddent yn neidio oddi ar y rhaw.

Mae'r un ddelfrydiaeth yng ngwyrdd y gwellt ac yn oren y tywod, ac yn hwn eto ceir afon yn rhedeg ar y tywod a dau blentyn yn chwarae wrth ei hymyl gyda phwced a rhaw - y ddau mewn trywsus cwta.

Roedd tripiau'r Rhyl yn bethau arbennig iawn, dyddiau hapus i'w cofio er bod y boced yn weddol dlawd ond roedd hwyl i'w gael gyda bwced a rhaw a the am ddim yn nhŷ bwyta'r 'Summers'.

Cymrodd Ifor olwg ar y fuwch yn y beudy, estyn caib a rhaw a joint plastig o eigion rhyw focs tŵls, a neidio i'r Daihatsu i drwshio'r hollt yn y beipan.

'Roeddwn eisiau gweld y pridd yn disgyn o'r rhaw ar ben yr arch er mwyn anghofio'r holl hanes erchyll am byth." "Ond wnaeth hynny ddim digwydd?" gofynnodd y cyfaill agosaf ataf gan ail lenwi'r gwydryn.

Rhoddid dwy gneuen ar raw, un i gynrychioli'r bachgen a'r llall y ferch a gosod y rhaw ar y tân.

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

Ac ni fydd y lliw haul a gafodd ein haelodau o'r Cynulliad yn ystod eu hwyth wythnos o wyliau haf wedi dechrau gwelwin iawn na fyddan nhw'n paciou bwced au rhaw am dair wythnos arall o'r siambr ar gyfer cynadleddau y pleidiau gwleidyddol.

Dechreuodd ei law grynu wrth iddo wasgu coes y rhaw fechan yn dynn.

Ar droad y ganrif yr oedd llafur a'i natur yn wahanol - caib, rhaw, ceffylau a chwys wyneb oedd tu ôl i waith yr Alwen.