Rhedai lôn ar y crib y clawdd deheuol, tu ôl i dai Bryn Road, gyda gerddi cefn High Street ar gopa'r clawdd i'r gogledd.
Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones.
Dyna oedd y waedd fel y rhedai rheilffyrddwyr yma a thraw gan ledaenu gorchymyn yr undebau.
Rhedai'r cŵn yn ôl ac ymlaen yn hapus a rhydd yn y caeau ar ôl bod yn y tŷ am hir.
Rhedai ei llaw yn aml drwy gnwd o wallt coch a oedd bob amser ag angen ei gribo, ac edrychai arnom mewn distawrwydd cyn dechrau, y llygaid fel pinnau glas mewn papur gwyn.
Fel yna y rhedai meddyliau Wiliam, a'r trên yn symud yn araf, gan chwythu fel dyn yn mynd i fyny gallt.
Rhedai iasau i lawr asgwrn cefn Jean Marcel wrth iddo ymwthio drwyddynt ar ôl y ferch.
Rhedai'r bobl yn ôl ac ymlaen, trwynau'n goch a llygaid yn disgleirio yn yr oerni.
Chwaraeai sboncen o leiaf unwaith yr wythnos, yn ystod ei awr ginio, a rhedai ddwy filltir bob bore cyn brecwast beth bynnag fyddai'r tywydd.
Rhedai'r cwestiynau haerllug drwy ei hymennydd, un ar ôl y llall wrth iddi sefyll yn syfrdan yng nghanol yr orsaf wasanaethau.
Rhedai i fyny'r bonciau ar ôl yr hogiau a lluchio'i chorff ar y gwellt nes bod cwmpas ei gwisg laes yn un llanast wrth ei thraed.
Anfonwch ambiwlans, mae Williams yn fyw o hyd.' 'Ble ry'ch chi nawr, syr?' Roedd tinc o nerfusrwydd yn llais Kirkley ar ben arall y lein; fel arfer rhedai gweithgareddau'r adran yn llyfn a digynnwrf.
Soniai pawb am y golled a fyddai i'r achos, a rhedai'r holl gydymdeimlad tuag at Miss Hughes.
Rhedai o gwmpas mewn cylch a'i drwyn ar y ddaear, ond pan âi'n rhy agos at y pysgodyn drewllyd roedd yn ysgwyd ei ben ac yn tisian drosodd a throsodd lawer gwaith.