Yna rhedasom i'r tŷ a'n hanadl yn ein gyddfau i ddweud "Mae'r dynion wedi dod â'r elor i moyn yr angladd!" Yr oeddwn wedi dychryn ac wedi gwylltu, yn methu aros yn y tŷ ond yn ofni mynd allan rhag ofn bod yr elor wedi dod i'm cario innau i'r bedd!
Ymhen tipyn clywn y canu lleddf ar draws yr afon a'r cwm, a rhedasom i'r tŷ i ddweud eu bod yn canu ac yn wylo wrth dŷ ewyrth Richard.