Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth rheidrwydd i uno rhai gofalaethau, ac erbyn hyn aeth y nifer i lawr i bump yn yr Henaduriaeth, gydag un ofalaeth gyd-enwadol o dan ofal y Parchedig WJ Edwards, Llanuwchllyn.
Mae'r Ddeddf Plant yn gosod rheidrwydd ar yr awdurdodau lleol i gadw cofrestr o blant gydag anableddau yn eu hardal.
Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.
Nid morgrugyn fel Monica yw hoff gymeriadau Saunders Lewis, ond arweinwyr sydd a'r awenau yn eu dwylo: mae cylch eu dylanwad yn gosod rheidrwydd arnynt i weithredu'n ystyriol.
Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, lle mae'n naturiol ac yn ofynnol i bawb ddysgu'r Saesneg sy'n fyd eang ei defnydd, mae'r rheidrwydd i ddysgu a defnyddio iaith carfan leiafrifol o'r boblogaeth ac iaith sydd wedi ei chyfyngu o ran defnydd i dir Cymru yn dibynnu ar wahanol gymhellion.
Rheidrwydd a osodwyd arni hefyd oedd gwasanaethu a bodloni anghenion y bendefigaeth.
Rheidrwydd statudol ar Gynghorau Sir i ymgynghori â'r Cyngor Ieuenctid cyn terfynoli Cynlluniau Lleol ar gyfer dyfodol y cymunedau.
Dysgai i'r bonheddwr bopeth y dylai ei feithrin - rheolaeth ar ei ymddygiad, a'r rheidrwydd i weithredu a datblygu'r dull cywir o wneud hynny.
Mae'r Gymraeg i'w gweld yn arwynebol mewn cryn dipyn o lefydd erbyn hyn, ond os ydych yn rhan o'r sector preifat does dim rheidrwydd arnoch chi i ddefnyddio Cymraeg o gwbwl.
(Nid oes rheidrwydd iddo wneud hynny, ond mae'r hawl yno os yw'n dymuno.)
Y mae'r ffaith fod rhai beirniaid yn dal i deimlo rheidrwydd i daranu yn erbyn ffuglen yn tanlinellu ffaith arall, sef bod yr arfer o ddarllen nofelau Cymraeg a Saesneg wedi eu hen adael ar ôl.
Yn anffodus nid oes gan BT ddewis yn hyn o beth gan fod rheidrwydd cyfreithiol arnom i warantu gwedduster cynnwys unrhyw negeseuon yr ydym yn eu cludo ar ein rhwydweithi.
Yn ei herthygl ar 'Sut i Sgrifennu Stori Fer' dywed mai'r unig symbyliad a ddylai fod gan rywun i geisio ysgrifennu yw'r rheidrwydd i ddweud rhywbeth am fywyd:
Erbyn hyn roedd yr ymchwil am hunaniaeth wedi cychwyn o ddifri ac am ddeugain mlynedd beichiwyd llenyddiaeth Cymru (yn enwedig y rhan Saesneg) a'r rheidrwydd i archwilio lle'r hunan, a lle'r genedl yn y byd.
Rhoi ei farn trwy ddangos yr ochr arall i'r geiniog, fel petai, a wna'r awdur ac nid oes rheidrwydd I'r darllenydd i gytuno ag ef o gwbl.
Mae rheidrwydd cyfreithiol ar wasanaeth erlyniad y wladwriaeth i atal cyhoeddi'r papur newydd, ond nid yw wedi gwneud hynny.
gan fod rheidrwydd ar athrawon i bennu lefelau disgyblion fisoedd ymlaen llaw er mwyn archebu'r papurau prawf priodol, gall hyn arwain at gamlefelu ac, felly at dangyflawni.