Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rheilffordd

rheilffordd

Ni wn a oedd gorsaf-feistr yma yr adeg hon, anaml y teithiwn ar hyd y rheilffordd LMS, dim ond rhyw unwaith yn y flwyddyn gyda thrip yr Ysgol Sul i'r Rhyl.

Trafodwyd dyfodol y rheilffordd â'r rheilffyrdd rhanbarthol yn gyffredinol yn arbennig yng nghyd-gyswllt preifateiddio.

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

(iv)Gofyn i'r Rheilffyrdd Prydeinig ymgynghori â'r Cyngor hwn ynglŷn â dyfodol y Rheilffordd ac ynglŷn ag unrhyw newidiadau i'r amserlen.

Cafodd y tad waith gyda chwmni rheilffordd y GWR yn Paddington a dechreuodd yfed diodydd meddwol yn enbyd.

Dringasom i fyny o'r heol sy'n arwain i Landysul yn ymyl pont y rheilffordd sy'n ei rhychwantu, gan daro'n lwcus ar un o gyn-weithwyr y rheilffordd, yn pladuro godre'r embancment.

PENDERFYNWYD (i) Datgan cefnogaeth i'r bwriad i benodi Swyddog Rheilffordd Cymuned er mwyn datblygu marchnadoedd newydd a hyrwyddo marchnadoedd presennol.

Saethwyd dau yn y terfysgoedd yn Lerpwl a bu gweithwyr rheilffordd yn bygwth galw streic cenedlaethol.

'Roedd heolydd yn croesi'r rheilffordd y naill ochr i orsaf Lanelli.

Dowdle, y giard rheilffordd a gafodd droedigaeth oedd y cawr hwn o bregethwr.

Gweithwyr y rheilffordd a gweithwyr sifil yn mynd ar streic.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

(c) Swyddog Rheilffordd Cymuned

Hysbysodd Mr Causebrook na ddylai preifateiddio effeithio gymaint ar y rheilffordd oherwydd y byddai'n dod dan bennawd "Dyletswydd Cymdeithasol" yn hytrach nag un lle 'roedd yn bosibl gwneud elw.

Streic gweithwyr Cwmni Rheilffordd Cwm Taf.

Er hynny, 'roedd angen i'r awdurdodau lleol perthnasol ac eraill yn yr ardal barhau i bwyso ar y llywodraeth i gyfiawnhau gwerth y rheilffordd i'r gymdeithas.

Prin y gall neb yr amddifadwyd ei fro o reilffyrdd gan y Dr Beeching cul ei welediad ymatal rhag hanner addoli'r Rhatische Bahn, rheilffordd y canton, y Ferrovia Retica, y Viafier Retica (Rhaetia yw hen enw Rhufeinig y rhanbarth).

Cyfarfu ynadon y dref i drefnu iddynt hebrwng y milwyr drwy gydol y dydd; penderfynasant ymhellach gau tafarnau yng nghyffiniau'r orsaf rheilffordd am ddau o'r gloch y prynhawn, a'r gweddill yn ardaloedd eraill y dref am naw o'r gloch y nos.

Cau rheilffordd y Mwmbwls, y gwasanaeth rheilffordd cyntaf yn y byd i gario teithwyr.

Cwblhau rheilffordd Cwm Rheidol.

Mewn rhai ardaloedd cred pobl fod anlwc yn siŵr o ddilyn os bydd dau berson yn siarad â'i gilydd wrth deithio o dan bont rheilffordd.

Marw 5 mewn damwain rheilffordd yng Nghasllwchwr.

Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Eryri i gefnogi ac i gymryd rhan flaenllaw yn y broses o atgyweirio a chynnal y Rheilffordd ac mae'n cefnogi Rheilffordd Ffestiniog yn y gwaith o ailadeiladu'r lein.

Roedd hi'n wyrth ei fod e'n medru cerdded o gwbl oherwydd pan oedd e'n dri deg naw mlwydd oed collodd Mr Croucher ei ddwy goes mewn damwain ar y rheilffordd.

Yn yr un flwyddyn aeth rhai o weithwyr Cwmni Rheilffordd Cwm Taf ar streic.

Sut yn byd y gallai'r diwydiant rheilffordd fod yn ynys heddychlon yn y môr cynhyrfus hwn?

o Bwllheli o amserlen y gaeaf ac y tynnwyd sylw Cynhadledd Gyswllt Rheilffordd y Cambrian at y mater.

Mae'r presennol yn brysur tu hwnt, ac yn yr orsaf rheilffordd ac yn y cyfan o'r man siopau a stondinau a hofelau a thryciau a rickshaws a sgwteri a chysgwyr a thacsis o'i chwmpas hi, mae'r peth tebycaf a welais i erioed i ddinas ganol-oesol yn byw a bod o'm blaen.

(ch)Rheilffordd y Cambrian CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar erthyglau a ymddangosodd yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â bwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau rhai gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.

Roedd y rheilffordd i'r Bala wedi ei chau a'i chodi erbyn i mi gyrraedd yr ardal, ac adeiladwyd ffordd newydd sbon drwy Gwm Prysor.

(a) Croesfan Rheilffordd Merllyn, Criccieth CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio yr adroddwyd i'r Pwyllgor diwethaf ar fwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

Ychwanegodd Syr Guy Granet, Rheolwr Cyffredinol Cwmni Rheilffordd y 'Midlands', ar ran y cwmniau i gyd:

Gelwir y dyfnant coediog hwn, a'r Rheilffordd o Gaerwen i Amlwch yn dilyn ei llwybr, yn The Dingle, ond 'does dim dwywaith mai ei henw gwreiddiol oedd Nant y Pandy." Enw arall ar y rhan hon o'r dyffryn, ac un hynod o addas ag ystyried sut y'i crewyd yn y lle cyntaf, oedd Nant y Dilyw.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan y Cyngor Sir yn tynnu sylw at swydd newydd a fwriedid ei chreu yn y dyfodol agos gyda chymorth Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop sef Swyddog Rheilffordd Cymuned.

Rhybuddiwyd P:wy~ot Streic Caertydd gari we/ ithwyr Cwmni Rheilffordd y Great Western am gynllun i fewnforio cynffonwyr ar y rheilffordd er mwyn torri'r streic.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

Ac un o bobl y wlad honno a ddywedodd wrthyf mai felly y cynlluniwyd y rheilffordd honno, ac mai bwriad y rhai a'i cynlluniodd oedd defnyddio dau rym.

Y mae gweld yr athrawon ma'n ffraeo ynglyn â chael eu talu yn ôl yr hyn mae'n nhw'n medru'i gyflawni yn fy atgoffa o'r adeg pan oeddwn i'n bortar rheilffordd yng Nghaerdydd.