Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rheithgor

rheithgor

Cred y cyhoedd y cânt wrandawiad teg gan y bobl gyffredin hynny sydd yn aelodau o'r rheithgor ac mae ganddynt ffydd, felly, ym mhenderfyniadau'r rheithgor.

Dywed rhai mae pendraw'r broses a argymhellir fydd dileu'r rheithgor yn gyfangwbl.

Yr oedd hi wedi sylweddoli erstalwm iawn nad oedd dim pwrpas dweud mai barn y rheithgor oedd yn bwysig ac nid ei barn hi, Yn ddieithriad, wedi iddi osgoi rhoi ateb pendant, y sylw wedyn fyddai, 'Ond rydw i am i chi gredu 'mod i'n ddieuog.'

"Doedden nhw ddim yn barod i ddatgelu'r cyfan o'u tystiolaeth a chawson nhw ddim o'u gorfodi i wneud hynny," meddai Michael Fisher, "Roedd thaid i'r rheithgor ymddiried ynddyn nhw - mae hynny'n rhoi grym anferth iddyn nhw, llawer gormod o rym."

Mi fydd y rheithgor yn cymryd ati, yn siŵr i chi.'

Rheithgor Caernarfon yn methu cytuno ar ddedfryd ond rheithgor yr Old Bailey yn eu cael yn euog ac yn eu dedfrydu i naw mis o garchar.

Felly, nid ar chwarae bach y dylid diddymu'r hawl i ddiffinydd ymddangos gerbron rheithgor.

A ddylai diffinydd gerbron llys troseddol gadw'r dewis sydd ganddo ar hyn o bryd o gael ei achos wedi ei glywed o flaen rheithgor ai peidio?

Rheithgor yn dyfarnu'r cyn-arweinydd Rhyddfrydol yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio.

Person ifanc yw'r hawlydd a'r diffynydd, pobl ifainc yw'r tystion, y rheithgor a'r gynulleidfa.

Awgrymodd yr erlynydd ei bod wedi cyflwyno tystiolaeth gelwyddog gerbron y rheithgor oherwydd iddi fethu cael arian gan yr hen ŵr.

Mae'r dewis o gael ymddangos gerbron rheithgor yn hawl sylfaenol ac ni ddylid ei chwtogi ymhellach.

Un o argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol yw y dylid cwtogi ymhellach ar hawl diffinydd i ddewis rheithgor i glywed ei achos - hawl sydd yn deillio o'r Magna Carta.

Ar hyn o bryd, mae gan ddiffinydd, sydd wedi ei gyhuddo o ddwyn, yr hawl i ddewis gwrandawiad o'i achos naill a'i gerbron Llys yr Ynadon neu gerbron rheithgor yn Llys y Goron.

Fel y dywedodd yr Arglwydd Devlin - "Y rheithgor yw'r llusern sydd yn dangos fod democratiaeth yn fyw%.