Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhent

rhent

"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.

Nod polisi rhent yw lleihau'n raddol y gwahaniaeth rhwng rhenti a godir ar eiddo sy'n debyg o ran math, lleoliad a gwerth mwynderau.

Gweithredir y polisi hwn mewn ffordd a fydd yn cynhyrchu incwm rhent digonol i ariannu gweithgareddau'r Gymdeithas yn llawn, ond ar yr un pryd anelu at gadw ein ymrwymiadau i osod lefelau rhenti fel y gall pobl ar incwm isel eu fforddio.

Nid yw'r tyddyn yn cynnal tenantiaid a thalu'r rhent y mae ei angen er mwyn cadw merched y Gŵr yn y dref.

Ond fe'i hachubir rhag poeni gormod ar y pwynt hwn o gofio y gall ei feistr tir godi'r rhent ar gyfer rhai mathau o welliannau.

Telid rhent am gael byw ynddo.

Condemniodd Ieuan Gwynedd feistri Tredegar a'r cylch am gymell gweithwyr i oryfed drwy orfodi tafarnwyr i brynu cwrw yn eu bragdai a phennu'r rhent yn ôl faint o gwrw a werthid.

Ifan: O'r borfa ar y cloddiau a'r twmpathau ar y gors fe gliriwn y rhent ag ŵyn-tac ac ebolion, pob llwdn fel ebol, a phob poni fel march erbyn y Gwanwyn .

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar y cynllun uchod oedd yn rhoddi hawl i denantiaid brynu eu tai drwy newid o dalu rhent i ad-dalu morgais.

Carasai weld ei holl denantiaid yn troi allan yn dda a pharchus os medrent wneud hynny a thalu'r rhent yn brydlon.

Talai'r Ddraig Goch ei ffordd, ond yn awr, daeth yn bryd talu cyflog HR, a rhent y swyddfa yn Aberystwyth.