Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.
Byddai wyth o ddynion yn y 'criw dal rhaff'--saith i ollwng y rhaffwr dros yr ymyl a'i ddal yn ddiogel wedyn tra byddai'n gweithio, a'r wythfed, yr hynaf fel rheol yn gwasanaethu fel 'flagman'.
Mae Rheol VII yn trafod perthynas y rhywiau â'i gilydd.
Gwaith amser mwy rhydd o ddyletswyddau pwysicach garddio fyddai hyn, dyddiau di-wlawio diwedd hydref neu aeaf fel rheol.
Nid yn y daearau hyn y genir eu hepil - torllwyth o bump i naw fel rheol - ond mewn tyllau wedi'u hagor yn bwrpasol ar gyfer y rhai bach.
Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.
Dydi rhywun ddim isio codi cnecs yn barhaus ar yr aelwyd; rhwbath am heddwch ydi hi fel rheol, yntê?
Rheol rhif un wrth ysgrifennu nofel yw creu cymeriadau cyflawn sy'n taro deuddeg.
Ystyried y pwnc hwn yn ei berthynas â'r Telynorion, a'r Datgeiniaid, i weled a ellir diffinio rheol a fydd yn sefydlog o berthynas iddo.
"Y rheol aur yw, 'Peidiwch byth â rhoi eich plentyn i rhywun nad ydych chi'n ei adnabod," meddai John Jenkins o Awdurdod lechyd De Morgannwg.
Anwybyddodd Now Ifas y rheol honno unwaith.
O wneud hon yn rheol gyffredinol byddai pawb yn gwybod lle mae o - cyn brifo a chyn cael ei frifo.
Enillid aelodau drwy amrywiaeth o argyhoeddiadau megis cred newydd yn Nuw fel Pen-lywodraethwr, neu apêl Cristionogaeth fel rheol foesol ragorach, a gwelai rhai yng Nghrist waredwr i'w rhyddhau o afael pwerau demonig.
Ystyried hyd y gellir, fanylion y Gelfyddyd, awgrymu Alawon Gosod a cheisio'u dosbarthu, deall eu ffuffiau, y rheol o ddyblu etc.
Mae pridd yr ardd fel rheol yn ddigon ffrwythlon i dyfu llysiau a blodau.
Fel rheol, penyd preifat a arferid yn yr eglwysi Celataidd, ond gan ei bod yn bosibl i'n hawdur gael ei ddylanwadu arno gan arferion Lloegr, mae'n ddiddorol sywli ar yr hyn a ddywed T P Oakley.
Fel rheol arferaf blannu tatws yn yr ardd allan yn ystod yr wythnos gyntaf neu ail o Fawrth ond nid oedd cyflwr y pridd yn ddigon sych eleni i ganiata/ u gwneud hynny felly bu ymarfer ymenydd (gwell ymadrodd na 'crafu pen') i geisio dull o ddod dros ben hynny.
Bu yn Affrica a De America, a bob tro y cai gyfle byddai'n meddwi, yn puteinio ac yn cael ei hun mewn rhyw drybini a fyddai fel rheol yn golygu ei fod yn cael ei fflangellu.
Dyna'r rheol gyffredinol gyntaf, felly - datblygu eich darnau i sgwarau diogel mor fuan ag sy'n bosib.
Y ffarmwr ei hun, fel rheol, fyddai'n cymeryd y "gwasanaeth", syml hwn, a'r gweision a'r merched yn gwrando ac yn ymuno yn y defosiwn o gwmpas y bwrdd.
Dyna'r rheol cyn seremoni 'Moliant y Ddinas'.
Does dim safonau gwisg, 'does dim rhaid siarad Cymraeg, 'does dim rheol oedran, dim agenda wleidyddol gudd, ac felly dim problemau.
Bod 'daliad' a 'llithren' yn gwbl afreolaidd, am eu bod yn hollol anghyson ag Egwyddor a Rheol Fydryddol "Mesurau Cerdd Dant" a "Mesurau Cerdd Dafod" yn eu cyfanrwydd.
Fel rheol, pwysleisiant mai sylfaen meithrin medrau yn yr amryfal agweddau ar y cwrs addysg yw cynnig profiadau dysgu uniongyrchol sy'n hybu diddordeb, chwilfrydedd a mynegiant plant ifanc.
Byddent fel rheol yn rhoi tipyn o godiad yn y ffordd o'r main line i'r chwarel.
Ond ar ôl dweud hynny, ddaru Towyn erioed fygwth peidio noddi'r ysgoloriaeth, na rhoi unrhyw bwysau ar yr Eisteddfod i lacio'r Rheol Gymraeg.
Mae Rheol XV yn eu rhybuddio i beidio â thrafod eiddo wedi ei smyglo ac y mae Rheol XVI yn trafod ymddygiad tuag at yr awdurdodau gwladol.
Ym maes pensaerni%aeth, wrth gwrs, yr oedd eithriad amlwg i'r rheol hon, sef cestyll mawreddog a bygythiol y brenin a'r arglwyddi.
Dyna'r rheol bob tro.
Nid ydym wedi cadw at y rheol yn rhanbarthol, er mwyn cael mwy o gystadlu, ond os bydd cangen yn mynd i Fachynlleth - mewn un gystadleuaeth yn unig y gall gystadlu.
Yr eithriad sy'n profi'r rheol ydyw Mr J Glyn Davies.
Go wantan oedd fy ngafael ar y Gymraeg, ac felly hyd yn oed pe bawn wedi awyddu dilyn y - gwasanaeth yn ddefosiynol, 'fedrwn i ddim, am fod iaith y bregeth a'r weddi a'r llithiau y tu hwnt i'm hamgyffred fel rheol.
Yng nghanrif y Tuduriaid rhoddid pwyslais mawr ar safle'r tad yn y teulu ac ef, fel rheol, a fyddai'n trefnu priodasau ei etifeddion.
Fel rheol mae'r golled leiaf wrth ffrio neu rostio.
~r ôl caniad, pan *ddai pawb nad oedd a wnelont â'r saethu, wedi mynd adref, neu ar brynhawn Sadwrn, y byddai'r tanio'n cymryd lle fel rheol.
Y fo, fel rheol, oedd y Pen Blaenor.
Mae i ba raddau y mae ar ddisgybl angen cymorth ychwanegol yn dibynnu ar gontinuwm, a dylid ystyried hynny yng nghyd-destun y ddarpariaeth sydd ar gael fel rheol.
'Mae serch yn gwneud anhrefn ar Drefnyddion': ydyw, ond 'mae'n well torri rheol na thorri calon'.
Fel rheol chi yw'r arwydd cynta i ddweud eich meddwl, ond rydych chi'n rhyfedd o dawedog yr wythnos hon, yn fyr eich tymer ac yn byw ar eich nerfau.
Un rheol i bawb yw eu cri.
Hytrach yn elfennol oedd pensaerni%aeth tai annedd yr ysgwieriaid o hyd, er bod eithriadau i'r rheol hon hefyd a'u bod fel dosbarth yn dysgu'n gyflym.
Yn hytrach na chrisial, defnyddir fel rheol ddeunydd ar ffurf gwydr yn sail i'r laser ffibr.
Dewis Cainc Bod yr arfer heddiw o ddewis neu nodi ceinciau ymlaen llaw i'w gymeradwyo yn ogystal â chaniata/ u rhyddid i'r cystadleuwyr i'w dewis, eithr, fel y ` cynhyddo'r wybodaeth o'r gelfyddyd, fe gymeradwyir amrywio'r rheol hon.
Yn y 'Rhagymadrodd' i Rheolau a Dybenion dywed Charles o berthynas i'r rheolau, "Barnasom fod yr ychydig rai canlynol ôll â sail iddynt yn y Gair Sanctaidd (yr hwn yw ein rheol gyflawn a sicr..." [Ceir y 'Rhagymadrodd' yn gyflawn yn William Hughes, Life and Letters of the Rev.
Ond dyna oedd rheol y Ddinas.
Mae Rheol VI yn mynnu fod aelodau'r seiadau i ymwrthod â "gwylmabsantau, dawnsiau, chwareyddiaethau, gloddesta, cyfeddach, di%otta, a'r cyffelyb".
Ar ôl clywed fod meddygon yn swydd Efrog yn presgreibio llyfrau i gleifion syn dioddef o iselder a stres y cwestiwn y maen rhaid i rywun ei ofyn yw pa lyfr Cymraeg fyddai rhywun yn ei gymryd yn ller tabledi bach syn cael eu cynnig fel rheol.
Yn eu plith y mae: Dim Stripars (rheol 2), Dim trafod gwleidyddiaeth (7) Dim Dynion onibai... (3) Nad ydyn nhw ond yn aros am hanner awr (4) A'u bod yn prynu peint i'r merched i gyd cyn gadael (5).
Gelwid y broses o gynhyrchu'r platiau yn dwymad, ac yr oedd yn rhaid rowlo'r platiau mewn pum part fel rheol, y tew (sef y barrau haearn tew), y senglau, y dyblau, y pedwarau a'r wythau.
Os 'dan ni'n mynd i dorri rheol yr iaith weledol honno, rydan ni'n ymwybodol o'r rheswm.
Saith mlwydd oed oedd yr unig ferch ddibriod yn y cwmni, creadures fach â llygaid duon, cudynnau o wallt gludiog, pigog, a'i thrwyn fel rheol heb ei sychu.Ac fel rheol cariai ar ei braich fachgen bach oedd yn ddigon pwysig i wisgo ffe\s coch tywyll.
Roedd yn gyngor buddiol, ac fel rheol ni châi unrhyw drafferth i ofalu bod ei phen yn rheoli'i chalon.
Rhyw bymthegfed fyddwn i mewn mathemateg fel rheol!
At ei gilydd, dosbarthiadau pur fychain oedd y rheol, mae'n siwr.
Un rheol iechyd seml iawn sydd gen.
Cant eu ffurfio gan bry- faid parasitig, fel rheol, mathau o gacwn bustl.
Tâp a ddefnyddiai'r gofaint eraill fel rheol i fesur amgylchedd olwyn.
fel rheol, pan ddeuent y ffordd hon, byddent, ymhen hir a hwyr, yn blino ar lif cyson y dŵr ^ r ac yn chwilio am rywbeth arall i 'w diddanu.