Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rheolaidd

rheolaidd

Rydym hefyd yn cydnabod y dylai bwyta fod yn rhywbeth cymdeithasol rheolaidd.

A chan fod archwiliad meddygol rheolaidd ar y merched hyn, yr oedd y drefn swyddogol yn gwarchod rhag i glefyd gwenerol ledaenu ymysg y milwyr.

Cofiaf hefyd y pleser a gafodd o fynychu Eglwys y Nyfer yn rheolaidd a'r cof cysegredig o dderbyn Bedydd Esgob yno yng nghwmni merched y Plas.

Sae'r Gymdeithas o'r farn bod ystyried materion sy'n ymwneud ag atal damweiniau Sn rheolaidd a systematig yn hanfodol i gynnal gweithgareddau'r Gymdeithas mewn modd effeithiol.

Caiff gwaith ei farcio'n drylwyr a chaiff y disgyblion adborth rheolaidd sy'n eu galluogi i wneud cynnydd.

a) Mae'n rhaid i bob cyfarpar trydanol a gedwir mewn mannau cyffredin gan gynnwys gwifrau a cheblau eraill gael eu harchwilio yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel i'w defnyddio.

Y nod oedd recordio digon o ddeunydd yn ystod taith ffilmio tair wythnos yn y Swdan i'n galluogi i ddangos hanner dwsin o raglenni i'w defnyddio yn rheolaidd mewn dosbarthiadau, a phob un yn dangos rhyw agwedd arbennig ar ddatblygu.

Cynhaliwyd cyngherddau corawl ac i'r organ yn rheolaidd yn Eglwys Crist gan ddangos dawn a gallu Ffrancon Thomas.

SC Mae modd, o leiaf, i ni gyfarfod fel hyn yn fwy rheolaidd.

Roedd honno'n un o'i dasgau rheolaidd, yn un y bu'n ei gwneud ers tri mis, byth er iddi gael ei ffordd a mynd i ddau ddosbarth yr wythnos.

Rhaid bod peth o'r llwydni penisilin wedi dod i mewn a disgyn ar blatiau bacteria o fewn yr ysbyty yn rheolaidd.

A nodir trafodaethau rheolaidd gyda rhieni yng nghofnodion yr ysgol?

Byddai tarddu Arthur o Artorius yn rheolaidd yn ieithegol, ond os dyna ffurf wreiddiol ei enw ni chadwyd unrhyw gof am hynny.

Trwy gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Adran Wasanaethau Cymdeithasol sicrheir bod prosiectau yn cael eu monitro.

"Hefyd, mae'r Gerddorfa yn hybu'n rheolaidd gerddoriaeth o Brydain ac yn enwedig waith cyfansoddwyr o Gymry fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias," meddai llefarydd.

Byddwn yn ei gweld ar dalcen hen efail yn y dyddiau pan oeddwn yn teithio Cymru yn rheolaidd.

Mae'r orsaf hefyd yn darparu gwasanaeth cenedlaethol a lleol rheolaidd rhwng 7am a 6pm.

Yr ydw i wedi bod yn mynychur pictiwrs yn eitha rheolaidd yn ddiweddar.

Is-bwyllgor Celf a Chrefft: Adroddodd Pat Lloyd fod y pwyllgor wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd, y mae tri grŵp yn paratoi ar gyfer Sioe Llanelwedd.

Newidiwyd ei gontract ac fe dderbyniodd gyflog rheolaidd.

Ymunodd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru a Mark Hutchings â'r cyfranwyr rheolaidd Peter Johnson, Siân Pari Huws a Mark Tulip ar Good Morning Wales, a symudodd Gail Foley o slot ben bore i'r sioe Good Evening Wales fin nos, gan ymuno â Patrick Hannan.

Ceisiwch fwyta prydau rheolaidd a pheidiwch a mynd heb frecwast.

Pwysleisid yr angen i gyffesu a gwrando Offeren yn rheolaidd.

Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.

v) cynnal arolygon rheolaidd ar hap o gyfarpar, dillad gwarchod, mannau gwaith (dan do a thu allan), a staff i wneud yn siwr bod ysbryd y Polisi hwn yn cael ei gynnal;

Profodd Gang Bangor hefyd yn ychwanegiad poblogaidd i arlwy rheolaidd Radio Cymru, a denwyd cynulleidfa deyrngar gan ei arddull fywiog.

Yr oedd yn byw yn Chapel Street yr adeg honno, ac fe gadwai "Bopty mawr" lle y byddai gwragedd Pentraeth yn dwad i grasu bara ac arferai llawer gael eu bara yn rheolaidd yno.

Mae ymarfer corff yn rheolaidd yn eich helpu gyda diet dda ac mae o gymorth arbennig gan ei fod yn annog i fraster gormodol gael ei losgi, yn hytrach na meinwe cyhyrau.

Erbyn y chwedegau roedd mwy a mwy o 'Oruchwylwyr Trwyddedig Ymfudiaeth' yn hysbysebu eu gwasanaethau amrywiol yn rheolaidd yn y wasg, a'r Herald Cymraeg, er enghraifft, yn cynnwys asiantaethau a oedd yn canolbwyntio ar ddenu Cymru oedd a'u bryd ar ymfudo.

Dylid gwneud arolygon rheolaidd o'r ddarpariaeth cyfatebol o adnoddau yn yr ysgolion cyfrwng Gymraeg er mwyn mesur i ba raddau mae'r cyfle yn gyfartal i bob disgybl sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gallai'r Uned feithrin cysylltiadau ag elusennau'r amgylchedd, megis yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, drwy ofyn yn rheolaidd iddynt nodi safleoedd sy'n werthfawr o ran bywyd gwyllt ond a allai ymelwa ar waith a fyddai'n ychwanegu at eu gwerth i'r amgylchedd neu'u diogelu er mwynhad y cyhoedd.

Cymerodd Vaughan Roderick a Siân Pari Huws yr awenau gyda Good Morning Wales, lle y caniataodd y dechnoleg newydd i'r tîm ddarlledun rheolaidd o leoliadau gwahanol ledled Cymru.

Dathlodd Station Road ei phen-blwydd cyntaf gyda ffigurau gwrando rhagorol - mae ymron i 90,000 o bobl yn gwrandon rheolaidd ar yr hanesion diweddaraf yn nhref ddychmygol Bryncoed.

Mae puteindra rheolaidd yn anghyffredin a hefyd anffyddlondeb priodasol; ond colli diweirdeb cyn priodi (yn anffodus, gwarth y Dywysogaeth) yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.

Ymrwymiad i gyhoeddi gwybodaeth am drafodaethau a phenderfyniadau'r Awdurdod yn rheolaidd.

Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uned Defnyddwyr i grynhoi gwybodaeth berthnasol i'r Cynllun Gofal.

O'r cae ei hun, fe welwn i beth a edryche fel cloc enfawr, a ffigure yn ymddangos arno'n rheolaidd.

Mewn rhai achosion mae hyn wedi golygu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynglyn â chwmpas yr hyn a gynigir gan ein gwasanaeth ond mae hefyd wedin galluogi i ganolbwyntion fwy eglur ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar ein cwsmeriaid a sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth yn gyson ac yn rheolaidd bob amser.

Yn ddiweddar, serch hynny, mae senglau gan grwpiau o Gymru wedi bod yn ymddangos yn rheolaidd.

Mewn rhai achosion mae hyn wedi golygu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynglyn â chwmpas yr hyn a gynigir gan ein gwasanaeth ond mae hefyd wedi'n galluogi i ganolbwyntio'n fwy eglur ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar ein cwsmeriaid a sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth yn gyson ac yn rheolaidd bob amser.

Peidiwch ag anghofio ymarfer corff yn rheolaidd - dylai chwarae rhan hanfodol mewn unrhyw raglen colli pwysau gan ei fod yn helpu i losgi caloriau.

Anawsterau felly yn amlach na pheidio sy'n wynebu'r myrdd o newyddiadurwyr fydd yn heidio'n rheolaidd i wahanol uwch- gynadleddau.

Cynhaliwyd dosbarthiadau yn rheolaidd yn Cairo a Phalesteina i Gymry yn y Lluoedd Arfog yn y Dwyrain Canol, lle trafodwyd problemau moesol, pynciau'r ffydd, a chymdeithaseg.

Mae patrymau prynu cylchgronau yn eu hanfod yn wahanol i batrymau prynu llyfrau (y prynu rheolaidd pob wythnos, pythefnos, mis neu chwarter), ac felly mae'r elfen leol ar ffurf y siop bapur/bentref yn bwysig iawn.

Rhoddwyd sylw rheolaidd i bêl-droed Cymru gydol y tymor drwy gyfrwng gemau byw yng Nghwpan Premier Cymru ac adroddiadau ar Gynghrair Cymru.

Ers rhai misoedd bellach rydym wedi bod yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd bob nos Lun yn syth ar ôl ysgol, (ar wahân i ddwy wythnos pan anghofiodd Mr Hughes amdanom ni, a pheidio â dod.

At y ffynonellau hyn yr arferai'r llenorion Cymraeg droi yn rheolaidd i chwilio am ddeunydd stori%ol i ehangu a chyfoethogi eu testunau Arthuraidd.

Nid yn unig mae'n perfformio'n gyson yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ond yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ac yn teithio'n rheolaidd led-led Cymru.

Yn barod, mae 2001 yn argoeli'n dda i artistiaid di-Gymraeg yr hen Gymru fach wrth i'r wasg gerddorol eu holi yn rheolaidd, yn ogystal â'u cynnwys yn y tudalennau newyddion yn wythnosol.

Yng Nghwmderi, fodd bynnag, mae cymeriadau o'r gorffennol pell wedi atgyfodi gyda Sabrina a Meic Pierce yn ôl yn y Cwm ond mae cymaint wedi newid ers imi wylio Pobl y Cwm yn rheolaidd fel nad wyf eto'n gwybod pwy 'di pwy a be 'di be yng Nhwmderi.

Cymerodd Vaughan Roderick a Siân Pari Huws yr awenau gyda Good Morning Wales, lle y caniataodd y dechnoleg newydd i'r tîm ddarlledu'n rheolaidd o leoliadau gwahanol ledled Cymru.

Mae ei broffesiynoldeb a'i awdurdod wedi bod yn ysbrydoliaeth i bob darlledwr, ac rydym yn falch y bydd yn parhau i gyfrannu'n rheolaidd i'r orsaf.

Coffa da am y dispatch riders, Willie Owen (aelod parhaol o'r staff) a John Williams o'r Blaenau (rhan-amser) yn gwneud siwrneiau epig yn rheolaidd ar eu beiciau modur.

'Taswn i'n actio'n rheolaidd mewn cyfres deledu hir neu mewn opera sebon, fel y bu+m i yn Coleg, yna mi fuaswn i'n colli'r cyfle yna.

Pwyswch eich hun yn rheolaidd, ond nid mor aml fel ei fod yn mynd yn fwrn.

Rydym yn siecio'r holl safleoedd a restrir yn rheolaidd.

Yn awr, yn ogystal a'u dyletswyddau paramedig mae'r ddau yn hedfan ar hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru yn rheolaidd.

Fel cyrsiau eraill y Coleg bydd y cyrsiau diploma hefyd yn rhan o'r cynlluniau arfarnu rheolaidd a drefnir gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd pan roddir ystyriaeth i ddangosyddion ystadegol (ceisiadau, derbyniadau, canlyniadau, gwastraff etc.), adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, staffio ac adnoddau.

Tref lân dros ben - y rhan newydd ohoni, beth bynnag - a'r strydoedd wedi'u cynllunio mor rheolaidd fel nad oedd yn bosibl mynd ar goll.

Derbyniai'r is-bwyllgor adroddiad gennyf yn rheolaidd ar y sefyllfa ariannol a rhoddwyd sylw blaenllaw bob tro i'r gronfa.

Yn ail, mae cyflwyno rheolaeth ysgolion yn lleol (RHYLL) yn annog AALl i gael rhesymoliad eglur dros eu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac i werthuso'r ddarpariaeth honno'n rheolaidd, ac archwilio ac adolygu'n gyson y modd y rhennir adnoddau rhwng yr amrywiol fathau o ysgolion a lleoliadau.

Cwmni Theatr Gwynedd yw'r unig gwmni sy'n teithio'n rheolaidd.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn poeni o hyd na chynhaliwyd trafodaeth lawn eto yng Nghymru am yr opsiwn newyddion integredig, ac y bu diffyg data monitro rheolaidd.

Llythyr gan rhywun o'r enw Verghese yn fy ngwadd i a phedwar reslwr arall i fynd yno oedd y tro cyntaf i mi glywed am y lle Byddaf yn cael llythyrau o'r fath o bedwar ban y byd yn rheolaidd gan bob math o bobol.

Ond 'doedd neb o ddifri yn meddwl fod llawer o ddyfodol i'r 'radio-olwg' neu'r 'radio-lygad', er i'r BBC ddechrau darlledu rhaglenni teledu yn rheolaidd ym 1936.

Hefyd, mae'r Gerddorfa yn hybun rheolaidd gerddoriaeth o Brydain ac yn enwedig waith cyfansoddwyr o Gymry fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias, meddai llefarydd.

Sefydlu nifer o golofnau rheolaidd i sicrhau erthyglau cyson -- eisoes mae colofnau Cysylltiadau Rhyngwladol a Pwy Uffar Yw...? wedi ymuno ag eitemau rheolaidd eraill fel y Cadeiryddol a thudalen Mr Mwydyn.

Eithr os digwydd bod pennill dros ben mewn cân neu delyneg, neu ddetholiad o awdl, bod yn rheolaidd i'r datgeiniad a'r telynor gyd-ddeall i ddyblu, neu beidio dyblu un rhan o'r gainc fel y bo'n angenrheidiol.

Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr y cwmniau a chynrychiolwyr y canolfannau perfformio i gyfnewid gwybodaeth, â, lle bo'r angen, i addasu cynlluniau i gydfynd ac unrhyw anghenion arbennig.

Wrth rwydo'n rheolaidd efo rhwyd fân, mewn gwahanol ddyfnderoedd wrth hwylio ar draws yr Iwerydd, gwnaeth siart yn dangos hyd y llysywod bach a ddelid.

Mae merched yn Rwsia, yr Almaen a Gwlad Pwyl yn cymryd te betys yn rheolaidd i gadw trefn ar y gyfundrefn genhedlu.

Fe fydd y Corws yn ymddangos yn rheolaidd ym Mhroms y BBC yn y Royal Albert Hall, ac eleni perfformiodd hefyd yng nghyngerdd cyntaf Proms yn y Parc y BBC yn Abertawe.

Tyfwch rywfaint o hadau mwstard a berw dwr ar sbwng llaith mewn soser ac yna rhowch ef mewn blwch cardbord a chau'r caead.Torrwch dwll bychan yn ochr y blwch, a'i adael ar sil ffenestr y gegin gyda'r twll yn wynebu'r ffenestr.Sylwch ar y blwch yn rheolaidd, a dyfrhewch yr hadau mwstard a berw'r dwr.