Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rheolau

rheolau

Cadwch at y cyngor cyffredinol yn Newid eich arferion bwyta - Cynllun deg pwynt, gan ei fod yn darparu'r rheolau sylfaenol ar fwyta'n iach.

Ond nid oes y fath beth â rheolau yn yr ysgarmesoedd hyn, ac y mae brathu yn rhan amlwg o'r gweithgareddau!

Mae un cymal yn y rheolau sefydlog yma yn datgan na ddvlai yr un aelod gael ei ethol i Gadair y Cyngor am yr ail dro tra bod aelod arall heb fod yn y Gadair o gwbl.

Y peth sy'n drawiadol am y traddodiad Cymreig yw'r argyhoeddiad fod y gwerthoedd a'r safonau sy'n ysbrydoli'r rheolau'n rhai ar gyfer gwerin gwlad, nid yn unig ar gyfer clerigwyr, mynachod a lleianod.

O safbwynt cyfnewidiad cymdeithasol yr oedd Rheolau a Dybenion y Cymdeithasau Neillduol yn mhlith y Bobl a elwir y Methodistiaid yn Nghymru yn dra arwyddocaol.

Yn ôl rheolau'r Cwpan Cenedlaethol, ni chaiff golwr arferol Y Barri, Fraser Digby, chwarae oherwydd na chafodd o ei gofrestru mewn pryd.

Dyrnaid o gerrig man, yn ol y rheolau, i guddio unrhyw annibendod yn y godre.

'Rhaid iddyn nhw gael ymarfer yn y Stadiwm Genedlaethol 'fory - dyna'r rheolau.

Mae yna rai rheolau cyffredinol, syml y mae'n werth sylwi arnynt cyn mynd ati i fanylu.

Er i ni wadu, roedd yn rhaid iddo chwilio'r bws am fod bwyta sglodion ar y bws yn erbyn rheolau'r cwmni, medda fo.

Y mae'n wyddor arbennig gyda'i rheolau a'i dulliau ymchwil ei hun.

Fyddi di ddim yn torri'r rheolau wrth ei roi yn dy fag.'

Waeth befo eu bod yn torri'r gyfraith: oni welwyd ambell Seneddol yn ymlafnio'i orau rhy las wrth geisio chwarae'r gem yn ol rheolau hunangar ei feistres?

Mae hyfforddwr Clwb Rygbi Penybont-ar-Ogwr, Dennis John, wedi dweud mai dehongliadau o'r rheolau yn ymwneud â'r ryc sy'n gyfrifol am ddiffyg llwyddiant clybiau Cymru yn Yr Alban y tymor hwn.

Ceisiwch chi egluror gwahaniaeth rhwng guidlines a guidance achos does yna ddim mwy nag oes yna rhwng Rules a Regulations er y bun rhaid i ni fathur gair gwirion rheoliadau er mwyn inni fedru dweud, Rheolau a Rheoliadau fel y Saeson.

Doedd Jenkins ddim yn y tîm ond mae wedii gosbi am dorrir rheolau.

Yn ogystal ceir cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig a gweinyddiaeth a rheolaeth yr amryw gymdeithasau bridiau - y rheolau, yr adroddiad blynyddol, y fantolen ariannol a meysydd cysylltieding eraill.

Yn Arnom yr oedd honno ond fe gafodd llawer o hogia o Nom hefyd waith yno i helpu'r Romans, drwy i gynghorwyr Nom dorri eu rheolau eu hunain.

Yn wir, mor ansicr yw'r athrawon nes y maent yn datblygu tuedd i gyflwyno rheolau llymach hyd yn oed nag y mae'r awdurdodau yn eu harbed rhag trafferthion fel rhai Kleff.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Maent i'w gweld mewn rheolau a deddfau, mewn blaenoriaethau, a hefyd yn ymddygiad rhai oedolion ac ieuenctid.

Wedyn yn ôl rheolau system Duckworth-Lewis, roedd yn rhaid i Warwick sgorio 202 oddi ar 38 o belawdau.

Ond fel pob gwleidydd da, ymddengys bod Jane wedi llunio rheolau cyfansoddiadol go bendant ar gyfer y digwyddiad.

Ond fe gymerodd yr ERC drueni dros Castres - maen nhw wedi rhoi pwynt nôl i'r Ffrancwyr ar ôl tynnu dau bwynt oddi arnyn nhw am dorri rheolau Cwpan Heineken drwy gynnwys Norm Berryman pan nad oedd o'n gymwys i chwarae yn y gystadleuaeth.

Craffer ar y rhannau hynny o'r rheolau sy'n ymwneud â materion moesol.

Hwyrach y byddech yn hoffi cadw at eich diet arferol yn ystod yr wythnos, er mwyn i chi allu llacio'r rheolau ar y penwythnosau.

Y Rheolau Sefydlog Y Rheoliadau Ariannol Y Rheolau Sefydlog ynglŷn â Chontractau

Ar ôl ymchwil pellach i effaith canllawiau daethpwyd i'r casgliad nad oeddynt yn effeithiol oherwydd bod eu hawgrymiadau neu eu rheolau yn rhy gyffredinol.

Anerchodd Iolo Morganwg y Beirdd hefyd gan ddweud mai 'Trefn Beirdd Cadair Morganwg y sydd fel hyn yn un peth canu a dangos o flaen cadair rai Cywyddau, Englynion ac awdlau, yn ôl yr hen Gelfyddyd fal y peth mwyaf effeithiol i gynnal yr iaith Gymraeg, yn hyn o bethau rhaid yw gwybod y rheolau yn benigamp .

Yr hen ateb, fyddai, mai dysgu am y byd mae'r gwyddonydd; darganfod rheolau natur a thrwy hynny, ei reoli.

Proffit ar y diwydiant cythreulig 'arfau' a pryd y gwelwn broffit ar y diwydiant Amaeth, sydd yn ol un aelod seneddol Toriaidd, Richard Body, o Sir Norfolk y 'Laime Duck' mwyaf o holl ddiwydiannau ein gwlad.' Nid yw felly yn anodd dod i'r penderfyniad fod y Diwydiant Arfau, Y Lluoedd Arfog, ac Amaethyddiaeth yn diwydiannau y gellir cael elw gwleidyddol Toriaidd ohonynt, ac ar yr un pryd wrth faeddu digon ar Undebaeth a newid rheolau a chyfreithiau'r wlad y mae'n hawdd dylanwadu ar y 'Floating Vote'.

Yn y cyfwng hwn cymerodd at ddysgu rheolau barddoniaeth; ac yn hyn gallasai'n ddiamau ragori, pe daliasai ati.

Unwaith rydach chi wedi gosod hynna, gosod eich rheolau of ewn y darn, mae o fel gosod cerddoriaeth.

ARGYMHELLWYD fod llythyr i'w anfon at y tenant yn ei rybuddio i wella ei ymddygiad rhagblaen neu byddai'r Cyngor yn gweithredu o fewn y rheolau tenantiaeth a cheisio meddiant o'r eiddo.

Rheolau Trefn Disgyblaeth a Chwynion

Rheolau i'w torri yw'r rhain, on torrwch nhw oherwydd fod gennych reswm dros wneud hynny.

Cawsom bob un bastwn, chwisl a chadwyn, allweddi, ynghyd â llawlyfr rheolau a gorchmynion.

'Roedd yna hwyl a sbort a hawl i chwerthin yn Nedw heb fod yn troseddu rheolau disgyblaeth yr wyneb hir a'r difrifolwch.

Ceid bron hanner cant yno pan oedd lawnaf a'r rheini, o leiaf yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, yn cadw rheolau disgyblaeth yr Urdd Sistersaidd yn fanwl.

Yn y 'Rhagymadrodd' i Rheolau a Dybenion dywed Charles o berthynas i'r rheolau, "Barnasom fod yr ychydig rai canlynol ôll â sail iddynt yn y Gair Sanctaidd (yr hwn yw ein rheol gyflawn a sicr..." [Ceir y 'Rhagymadrodd' yn gyflawn yn William Hughes, Life and Letters of the Rev.

Mae cynifer o hen ymadroddion a rheolau gwledig yn parhau'n berthnasol.

Peth hawdd iawn yw dychanu'r rheolau hyn.

Cyhoeddodd y bwrdd reolau er dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddo, ond yn ymarferol byddai'n dyrannu tai yn ôl rheolau cwbl wahanol nas hysbysebwyd fel oedd yn ofynnol dan y gyfraith.

Nid yw Banc y Byd wedi gweld ei ffodd yn glir i gefnogi'r cynllun am ei fod yn credu fod y cynllun yn torri rheolau'r Cenhedloedd Unedig sy'n ceisio atal gwrthdaro rhwng gwldawriaethau sy'n rhannu adoddau dŵr.

Ond roedd yna rai rheolau pendant ynglŷn ag addurno'r tai ar gyfer yr ŵyl.

Mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi cyhoeddi rheolau newydd, wedi'u cynllunio i wneud y gêm yn fwy cyffrous.

Yr un flwyddyn cytunwyd ar ganllawiau i'r seiadau yn y llyfryn, Sail, Dibenion, a Rheolau'r Societies neu'r Cyfarfodydd Neilltuol...

Anodd oedd cynefino â rheolau caeth y gwersyll newydd.

Anodd iawn a gan nad oes rheolau mi ddewisa'i ddau ddyfyniad o leia.

Noder hefyd fod y rheolau wedi newid eleni - yn ol y Pwyllgor Chwaraeon Cenedlaethol, "UN unigolyn i gystadlu mewn UN gystadleuaeth yn unig".

A phan gwynodd yr hwn a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, yr ateb a gafodd oedd nad oedd dim yn y rheolau yn dweud fod yn rhaid i'r cwn oedd yn cystadlu fod yn fyw.

Mae Cymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru wedi llunio rheolau sefydlog ar gyfer Cynghorau ac fel arfer byad y rhain yn cael eu mabwysiadu gan bob Cyngor.

Unwaith yn rhagor 'roedd rheolau'r gystadleuaeth wedi eu torri.

Rhaid i bobl eraill sy'n ymweld ag eiddo'r Gymdeithas am ba reswm bynnag ac am ba gyfnod bynnag o amser ddilyn rheolau diogelwch y Gymdeithas.

Daeth rheolau glanweithdra wrth odro a thrin llaeth i'w afon i'r ffatri yn llawer mwy llym.

'Roedd yn disgrifio hanes adeiladau yng nghefn gwlad Cymru tros y canrifoedd yn weddol fanwl ynghyd â'r ymgyrch i geisio rheolau dylunio wrth ei astudio.

Mi gewch ei weld, siwr iawn, er fy mod yn torri'r rheolau cofiwch.

'Ydi pawb yn derbyn rheolau'r Ddinas?' ...

Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.

Bydd blychau Cymorth Cyntaf yn cael eu darparu a'u cynnal a'u cadw ym mhob swyddfa ac ar gyfer pob swyddog teithiol yn unol â'r Rheolau Cymorth Cyntaf.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.