Fe ddylen ni fod yn ddiogel felly rhag unrhyw derfysgaeth o du'r Palestiniaid, ac i mewn â ni ar fore Sul, heibio i'r rheolfa filwrol ar gyrion y dref.
Ond roedd yn anodd bellach i adael Bethlehem; doedd yr un car yn cael mynd allan o'r dref oni châi ei archwilo yn gyntaf a derbyn sÚl bendith milwyr y rheolfa wrth iddo fynd i mewn i'r dref.
Yn nes ymlaen, wedi i mi a gweddill y criw fynd drwy'r rheolfa basport, sylwais fod Siwsan wedi cael ei throi yn ôl a'i hanfon i swyddfa arbennig.