Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhesi

rhesi

Adeiladwyd hwy mewn rhesi yn agos i'r ffatrioedd.

Yn ogystal â hofio rhwng y rhesi mae'n rhaid parhau i briddo'r tatws fel bo'r gwlydd yn tyfu.

Dyna'r rheswm fod siopau Tripoli mor fach; maen nhw fel rhesi o focsys esgidiau am ei bod yn anghyfreithlon i gyflogi cynorthwywyr, ac o'r herwydd dyw'r perchnogion ddim yn medru ehangu.

Byddai gwasgaru ychydig o wrtaith cyffredinol rhwng y rhesi'n hybu tyfiant y tatws.

Mewn un mosg yng nghanol Tripoli, buom yn ffilmio rhesi o blant yn ceisio efelychu'r gamp.

O drefnu taith yn ofalus ac amseru pethau'n berffaith, fe fyddai modd cael `gorau deufyd' - lluniau rhesi di-ddiwedd o feddau, o dorwyr beddau wrthi'n claddu'r meirw, o blant a'u rhieni'n gorweddian rhwng byw a marw, a'r lluniau cynta' o wynebau gwynion yn cyrraedd gyda'r lori%au i adfer gobaith.

Dyma'r adeg i blannu planhigion ysgewyll Brwsel yn yr ardd agored gan adael tair troedfedd rhwng pob planhigyn a'r un gofod rhwng y rhesi.

Bydd hynafgwyr balch a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd yn eu gwisgoedd Cenedlaethol a'u bronnau wedi eu haddurno â rhesi o fedalau.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Y pentref ei hun Rwy'n credu fod Chapel Street yn un o'r rhesi tai hynaf ym Mhentraeth, a llawer ohonynt wedi cael eu hadnewyddu.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Roedd miloedd o feddau yn rhesi ar resi.

Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.

Yn fasnachol gwnaed defnydd helaeth ohono rhwng llwyni rhyfon (cyrens) duon a rhesi mafon yn ogystal a ffrwythau eraill.

Erbyn hyn, gellir defnyddio rhesi o laserau lled-ddargludol ar gyfer y gwaith.

Fel y bydd ffrwythau'r mefus yn datblygu, mae'n rhaid gosod gwellt glân rhwng y rhesi.

Weithiau, dau neu dri gyda'i gilydd, ond mewn un man arbennig Karnag, yn ne Llydaw þ mae rhesi ar resi ohonyn nhw, cannoedd ar gannoedd o bob maint a llun.

Mi fydd o'n falch o'ch gweld." A dyna lle'r oedd Dad mewn gwely, gwyn, gwyn, mewn ward olau fawr, a rhesi o welyau bob ochr, a rhywun ymhob un, rhai yn cysgu, eraill yn darllen, eraill yn gwenu ar y plant.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

Dylid hofio'n ysgafn ond yn gyson er mwyn cadw'r pridd sydd rhwng y rhesi'n glir o chwyn.

Maen nhw hefyd yn cerdded ymlith y mamau a'r plant sy'n eistedd yn amyneddgar mewn rhesi trefnus.

Y diwrnod hwnnw, roedd sebon ar gael, ac ychydig o bast dannedd, ac, yn un gornel, roedd rhesi trist o offer sgi%o, heb fawr neb yn edrych arnyn nhw, heb sôn am feddwl prynu.

Yn y rhesi cwpledi y mae'r cythreuliaid yn cael cyfle i dynnu darlun o Gymru Ymneilltuol o safbwynt ei gelynion.