Cais llawn - dihangfa dân Rheswm: Gohiriwyd y cais hyd nes y derbynnid cais adeilad rhestredig gan yr ymgeisydd.
Cais adeilad rhestredig - addasu ac ymestyn adeiladau allanol i ddarparu llety ar gyfer oedolion gyda salwch meddwl Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.
Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan
(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.