Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhesymau

rhesymau

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau canlynol:- (a) Cynamserol.

Roedd y rhesymau am hyn yn gymhleth ac amrywiol iawn ond un rheswm diamheuol oedd y ffaith nad oedd y cyrsiau a arweiniai at yr arholiadau traddodiadol mewn ieithoedd modern yn atyniadol i'r mwyafrif.

oedd un o'r rhesymau pam y gwelwyd symud i'r chwith ar gychwyn y 1980au (fel digwyddodd gyda gweddill y mudiad cenedlaethol yr adeg honno) a dechreuwyd canolbwyntio ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n ffurfio cyd-destun iaith, gyda sylw cynyddol ar faterion fel tai a thwristiaeth.

Mae rhesymau y gellid eu rhestru o blaid ac yn erbyn y syniad hwn.

Ac o achos hyn a rhesymau eraill, yr ydym mewn llawer lle wedi cadw'r ymadroddion Hebraeg, er y gallant daro braidd yn chwithig yng nghlustiau y rheini nad ydynt wedi ymarfer yn dda â hwy ac ymddigrifo hefyd yn ymadroddion persain yr Ysgrythurau Sanctaidd.

Fodd bynnag, o safbwynt cadwraethol ac addysgiadol, dylid annog y defnydd o bethau heblaw mawn, a thrafod y rhesymau dros hynny gyda'r plant.

Os byddwch yn absennol rhwng un a saith niwrnod calendr byddwch yn cwblhau tystysgrif eich hunan ("Self Certificate%) i nodi'r rhesymau am eich absenoldeb.

(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.

Un o'r rhesymau tros y cynhyrchiad llwyfan, er nid yr unig un o bell fordd, oedd fod Gwenlyn wedi ymuno ag oriel yr anfarwolion trwy gael ei wneud yn 'destun gosod'.

Un o'r rhesymau dros fethu bwrw brych yw prinder Magnesiwm yn y nerfau a reola gyhyrau'r llestr.

Yn ôl yr enillydd Gwobr Nobel, Dr James Watson, y mae rhesymau gwyddonol da pam y mae merched tewion yn hapusach na rhyw styllod fel Kate Moss.

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn gwneud llawer o waith i ddarganfod y rhesymau dros ostyngiadau yn nifer rhai adar.

mae'r rhesymau am lwyddiant y Bloquistes yn debyg o fod yn eithaf cymhleth.

NODER yr awdurdodwyd y Pwyllgor Cynllunio i benderfynu pa geisiadau y dylid eu cyflwyno i'r Cyngor i'w penderfynu oherwydd y rhesymau uchod.

Un o rhesymau am y mordeithiau hir oedd gorchymyn Morlys Prydain i gapteiniaid llongau ddilyn y llwybr heibio Tenerife, Ynysoedd Cape Verde, i lawr i Rio de Janeiro ac yna i Cape Town.

Os yw'r amrywiadau'n ddigon o faint i alw am esboniad, rhaid edrych am y rhesymau paham y digwyddasant.

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.

Yn anffodus mae nifer y Boda Tinwen yng Nghymru wedi lleihau dros y degawd diwethaf ac y mae'r gwaith a wneir gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Cyngor Gwarchod Natur, yn chwilio am y rhesymau dros hyn.

O ystyried y rhesymau uchod mae'n dda efallai fod gan rai economyddion y fath sicrwydd, oblegid mae yna ddigon o anffyddwyr o gwmpas.

Os yw plentyn i gael ei eithrio oddi wrth rhan neu rhannau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae modd gwneud hynny drwy proses penodol o nodi hynny - a nodi'r rhesymau dros yr eithrio - mewn DAA.

Beth am holi rhai o'i gefnogwyr i glywed rhai o'u rhesymau?

Digon posibl eu bod yn rhesymau mwy materol a bydol efallai, ond eto roeddynt yn rhesymau cryfion.

Yr oedd yn bosibl, wrth gwrs, fod y dyn dysgedig hefyd wedi cael profiad mewnol, ond yr oedd hyn yn annhebyg, gan fod yr offeiriadaeth yn bennaf yn broffesiwn - sef ffordd o ennill bywiolaeth - a ddenai bobl am y rhesymau anghywir, felly.

Teimlai aelodau'r Pwyllgor nad oedd y rhesymau yn foddhaol a chynigiwyd ein bod yn anfon eto at Fanc y TSB yng Nghaernarfon yn cynnig gwasanaeth cyfieithu iddynt.

Mae'n siŵr y gallen nhw, hefyd, roi rhesymau pam y mae rhai ohonom ni'n crio'n amlach na'n gilydd.

a) nad oes angen datganiad cyffredinol o'r fath ar y Saesneg fel sydd angen ar y Gymraeg am y rhesymau uchod.

Yn yr un modd ceir rhesymau ymarferol hollol paham na ddylid rhoi esgid ar fwrdd, neu agor ambare/ l mewn ty.

Ni ddylem anghofio bod rhesymau ar y pryd dros fod yn ochelgar.

Felly y sicrhawyd nifer calonogol iawn o dderbynwyr newydd - a minnau'n rhyw ddirgel hyderu, yn y misoedd wedyn, na fyddent yn darllen y papur yn rhy ofalus: fe ddaw'r rhesymau am hynny'n amlwg yn nes ymlaen.

Ym mhob achos o anghytundeb ynglŷn â chategoreiddio, bydd pob penderfyniad yn cael ei egluro i'r cynghorau cymuned gyda rhesymau pendant dros y penderfyniad gan y Cyngor Sir a'r Cyngor Dosbarth.

Byom ar ein hennill o'u cael yn ein mysg ac yn ein heglwysi, a bydd ardal Llanilar yn siwr o elwa am yr un rhesymau.

Diau bod rhesymau cymhleth am hynny, ond gyda golwg ar byllau afon dylid cofio fod y nodweddion a enwyd gynt hwythau yn cael eu dileu, gan gynlluniau traenio sy'n golygu clirio a dyfnhau rhedfa'r afon.

Nid oes ganddo syniad sut i amddiffyn ei hun am nad eglurir y rhesymau am ei drafferthion iddo.

Dyma araith Branwen Nicholas i Ynadon Abergele yn yr achos llys a ddilynodd ym mis Tachwedd, lle mae'n esbonio ei rhesymau hi dros ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith dros Ryddid i Gymru Mewn Addysg.

Y mae'r Athro Ford, er hynny, yn pwysleisio fod y rhesymau a gynigwyd o blaid ac yn erbyn y ddamcaniaeth hon, fel ei gilydd, yn rhai cryfion, ac efallai'n wir y bydd modd cyfuno'r rhesymau hyn a chanfod y tu ôl i Arthur draddodiadau mytholegol a ymglymodd wrth berson hanesyddol.

Rhesymau addysgol a roddodd y Pwyllgor am ei fwriad i gau'r ysgol a nododd yn ei ddatganiad nad ystyriaethau ariannol a barodd iddo wneud y penderfyniad.

Ar hyn o bryd, mae gwella'r amgylchedd yn isel iawn ar restr y rhesymau cydnabyddedig dros adennill.

Er mor wahanol eu moddau yw dramâu Groeg, Dante, Shakespeare, y Gododdin, y Mabinogi, Rhys Lewis, Dafydd ap Gwilym, Rilke, Dostoevsky, y rhyfeddod mawr yw y gellir dadlau eu bod i gyd yn arwyddocaol am yr un rhesymau, fod yn gyffredin iddynt i gyd yr elfennau a'r nodweddion sy'n cyffroi dyn yn deimladol ac ymenyddiol.

Ymhlith y rhesymau a roddodd Lingen dros y diffyg cywirdeb cyfewin oedd mai dyma oedd y ....

Roedd wedi colli ei lyfr nodiadau ac yn anffodus doedd o ddim wedi dysgu'r rhesymau ar ei gof.

ANNWYL OLYGYDD--Rwy'n sgwennu'r llythyr yma atoch fel un o Gynghorwyr Tref Blaenau Ffestiniog yn dilyn ymddiswyddiad un o'r aelodau yn y cyfarfod blynyddol yn ddiweddar am y tybiaf y medraf esbonio rhai o'r rhesymau a'r cefndir i'r digwyddiad yma.

Un o'r rhesymau i mi adael Abertawe a dod yma am flwyddyn oedd y byddai hynny yn hwyluso trefnu cyfarfod â'r awdur.

Mae'r Grwp yn cefnogi defnydd cerrig mâl eilaidd am y rhesymau hyn a rhesymau eraill, ac eistedda Arweinydd y Grwp ar grwp llywio prosiect ymchwil o eiddo Adran yr Amgylchedd, ar ddefnydd a defnyddiau amgen ar domennydd gwastraff llechi a'r modd y gellid eu trin.

Yr elfen Loywi Iaith trwy gynhyrchu deunyddiau byrion ar gyfer dysgu, eu cywiro eu hunain a chynnig rhesymau dros eu cywiriadau; arddywediadau; profion byrion aml ar agweddau ar gywirdeb; llunio cyfarwyddiadau i ddisgyblion ar bwyntiau gramadegol a.y.y.b.

Yr oedd rhesymau 'teuluol' dros roi imi'r enw 'William' a digonedd o reswm dros 'Thomas'.

Un o'r rhesymau dros y cwlwm clos yma rhwng teuluoedd oedd mai crwydrol a bugeiliol oedd eu bywyd.

Digon dealladwy oedd rhesymau'r archesgob dros ymddwyn fel y gwnaeth.

Reiats bwyd yn Buenos Aires oedd un o'r rhesymau pennaf pam y bu'n rhaid i Raul Alfonsin roi'r gorau i arwain y wlad bum mis cyn i'w dymor ddod i ben.

Er bod y math o wybodaeth yr oedd Gradgrind yn ei geisio wedi troi'n ddihareb am ddiffyg dychymyg, ni ddylem anghofio'r rhesymau pam yr oedd y Fictoriaid yn mynd ar ôl ffeithiau, nac am y tro da a wnaed â'u disgynyddion trwy eu casglu.

Efallai bod mwy nag un ffactor yn gweithredu; yr hyn sy'n bwysig ydyw ceisio cael darlun llawn o'r sefyllfa, ac yna dod o hyd i'r rhesymau am y cyfnewidiadau.

Dros yr un cyfnod hefyd bu cynnydd ym mhwysigrwydd cyflogaeth mewn gwasanaethau, a hynny am y rhesymau canlynol.

Am yr un rhesymau, dylai'r Gymraeg hefyd fod yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Yn aml iawn maent yn darganfod mai un o'r rhesymau pennaf dros ddirywiad ydi dinistrio cynefin yr dar, ac felly dinistrio eu bwyd a'r llefydd i nythu e.e mae llawer i hen ddarn o dir a llwyni toreithiog o ysgallen ynddo yn nefoedd i'r nico.