Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhesymegol

rhesymegol

Dadleuir o blaid derbyn rhamantiaeth, am ei bod wedi datblygu egwyddorion dyneiddiaeth i'w pen draw rhesymegol, trwy gydnabod mai profiadau unigol yw pwnc llenyddiaeth.

Heb i Hiraethog fynd heibio i'r cyntaf anodd fyddai ystyried ei chwedl yn nofel o gwbl; ac yn yr ail gam ceir datblygiad rhesymegol o'r technegau a'r deunydd gwrthdrawiadol a welir yn ei lyfrau eraill.

Adeiladu rhesymegol Gellid symud oddi wrth unrhyw un o'r elfennau hyn yn ei thro i ddatblygu unrhyw frawddeg newydd.

Er mor rhesymegol yw'r awdur (neu oherwydd ei resymolder) mae'r llyfr hwn yn frith o anghysonderau bwriadol.

Y prif gwestiwn oedd nid sut allai Duw, yn rhesymegol, lwyddo i ddod yn ddyn, ond sut allai dyn marwol ennill anfarwoldeb neu ddyn pechadurus gael ei gymodi â'r Duw sanctaidd?

Yr un fwyaf egr lC amrwd ei bygythiad a'i hanogaeth ydyw Ltais y Priodfab Howell Davies, lle traethir yn ebydllon am of nadwyaeth uœern, ac yna am erfyniad y Mab am le yn y galon; ond mewn print, ymddengys ei dannod a'i dyhead yn hynod denau.' O'u cym~ru ~ hon, mor aeddfed, mor rhesymegol, mor flasus ydyw pregethau Rowland !

Ac y mae'n amlwg fod yn rhaid wrth dechnegau heblaw'r rhai rhesymegol a dadansoddol i wneud cyfiawnder â chymhlethdod ein bywyd beunyddiol.

Cafwyd gwrthwynebiad a phrotest, cafwyd cyflwyno dadleuon rhesymol a rhesymegol, cafwyd trafod ac ymgynghori.

Ymhob un ohonynt, dadansoddir y testun yn bwyllog, symudir o bwynt i bwynt yn rhesymegol, dosrennir y pwyntiau'n is- adrannau, nodir yr athrawiaethau sydd yn ymhlyg ym mhob rhan, a goleuir y datganiadau a wneir gan brofion, sef cymariaethau, trosiadau, cyferbyniadau, daduniadau, oll wedi'u tynnu naill ai o'r Ysgrythur ei hun, o lyfrau a ddarllenasai Rowland, neu o'r byd naturiol yr oedd ei ddarllenwyr yn gynefin ag eœ Mae iddynt fframwaith o resymu clir.

Fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad y llynedd, dylai cynllunio fod yn broses rhesymegol, nid mympwyol, yn mynd ati'n drefnus i ystyried defnydd tir a rheoli datblygu.

Yn hynny o beth, meddir, mae rhamantiaeth yn fwy rhesymegol na chlasuraeth y Dadeni.' Mae'r pwyslais yma yn gogwyddo fwy i gyfeiriad rhamantiaeth nag a wnâi'r gyfrol ar Bantycelyn, ac yn wir fe dderbynnir fod egwyddor sylfaenol rhamantiaeth yn iawn, er bod angen symud ymlaen at ryw synthesis amgenach.

Anomali ydynt bob un yng ngolwg y rhai sydd am safoni'r byd, a'i wneud yn fwy rhesymegol, yn fwy rheolus ac yn fwy ufudd.

Ond o fewn y cynllun trifflyg syml a rhesymegol hwn dengys yr awdur gryn allu wrth amrywio ei dechnegau naratif ac wrth ddefnyddio dulliau adrodd gwahanol.

Drwy anghyfarwyddo'r berthynas gonfensiynol rhwng datblygiad rhesymegol a datblygiad amserol naratif mae Robin Llywelyn yn awgrymu un ffordd i danseilio'r metanaritifau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol a greodd dynged yr iaith Gymraeg.

Naratif llinynnol a phob digwyddiad yn dilyn y naill y llall mewn trefn amseryddol yw hwn, ond nid yw mor lliwgar a hamddenol â'r ail nac ychwaith mor rhesymegol ei gyflwyniad.

Yn rhesymegol gynyddol.

Estyniad rhesymegol ar yr uchod oedd y drydedd egwyddor.

Yn ei gwaith gwyddonol y mae'n ymarfer ei thalentau dadansoddol a rhesymegol.

Ond nid oes rhaid wrth brofiad newyddiadurol i fedru darllen y newyddion, i wneud bwletin yn gredadwy, ac i ddarllen y naill stori ar ôl y llall yn rhesymegol, yn synhwyrol a chydag argyhoeddiad.