Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhew

rhew

Craffwch ar y cerrig myllt o'ch cwmpas, yr ochr ucha'n llyfn ac olion plyciadau'r rhew ar yr ochr isaf.

Yn ystod Haf byr a ddaw i ardaloedd oer gogleddol y byd, mae'r eira a'r rhew yn diflannu a miliynau o blanhigion, blodau a phryfed yn ymddangos.

Troi ar y rhew, Llyfnu ar y glaw Casglu baw i'r ysgubor.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.

Ond mae hi'n ras fawr, a buan y dychwel y rhew a'r eira a bydd yn rhaid i'r adar droi am le cynhesach i dreulio'r Gaeaf.

Elen: Yr haul ar ffenestri'r ffrynt trwy'r prynhawn, a'r prisgau wrth gefn-tŷ yn torri'r gwynt rhew .

Doedd dim ysgol sgio heddiw, ond oherwydd prinder yr eira a amlder y rhew dyma benderfynu ymuno a dosbarth o ddechreuwyr.

Gallwn feddwl amdanynt fel mynyddoedd rhew yn yr awyr.

Ifan (â gwên): A'r angau trugarog yn torri'r gwynt rhew!

Llyfnhawyd yr ochr uchaf ac fe blyciwyd darnau'n rhydd o'r ochr isaf, serth, gan rym anorfod y rhew.

Galaethau fel mynyddoedd rhew.

Drwy'r dydd bu'r plu yn chwyrlio o'r awyr lwyd a phan ddaeth y nos a'i rhew, ni allai yr un cerbyd dramwyo'r ffyrdd o gylch y dref.

A gorfod i mi dalu i'r cythral am y dwr yn y diwadd.' 'Trochodd Nain Nyrs flaen ei bys yn un o'r pwcedi a dweud yn sarrug,' 'Tydi hwn yn oer fel rhew gynnoch chi.'

Ni fu unrhyw niwed i'r planhigion laswellt er y driniaeth gynnar yma, ond teg ychwanegu hefyd na fu rhew yn fy ardal i ar ochr orllewiol penrhyn Llþn, ac ar yr arfordir, eleni.

Gwyddom ninnau am beryglon gaeaf - am y rhew caled sy'n dod â rhyndod ac angau i'r hen, neu'r gwyntoedd nerthol sy'n corddi'r môr a pheri iddo orlifo'r tir.

Does dim bridio yn y Gaeaf, a phan ddaw'r Gwanwyn, maent yn dychwelyd i'r wledd fydd yn eu haros yn y rhannau fydd wedi bod dan eira a rhew am chwe mis.

Ac yr oedd hanner chwith fy nghorff fel rhew yn union.

Fel mynydd rhew, mae'r rhan fwyaf o alaeth o'r fath yn anweladwy.

Y trydydd diwrnod o sgio, roedd y llethrau'n brin o eira a'r rhew fel gwydr.

Rhew neithiwr, ma' siŵr!

Mawrygwn Di am rythmau'r tywydd, am heulwen a glaw, tes a rhew, gwlith ac eira, y gwynt nerthol a'r awel dyner.

Mae'r busnes newydd mewnforio rhew o Rwsia'n talu ar ei ganfed, felly diolch yn fawr ichi'r un fath ond mi sticia'i at hwnnw os byw ac iach.

Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.

Beth bynnag fo tymer yr haul, y gwynt a'r glaw, gellir derbyn fod y rhew wedi cilio o'r tir am gyfnod.

Rhew gorau, cofiwch.

Llwybr garw, creigiog yw am sbel ac effaith y rhew yn amlwg eto, wedi llyfnhau'r graig i ffurfio palmant rhewlifol.

Yn ei swyddfa agorodd Rhian botelaid o siampên, a gadwyd mewn rhew ers tro.

Gaeaf caled o luwchfeydd a rhew am saith wythnos yn gwaethygu'r sefyllfa ynghylch prinder tanwydd.

Sylwyd hefyd ar sianelau all-lifeiriant gymaint â deg cilomedr o led yn driphlith driphlith hyd lethrau'r mynyddoedd tanllyd a hyd yr iseldiroedd yn ogystal ac y mae'n debygol i'r rhain gael eu ffurfio pan doddodd rhew y Twndra yn sydyn gan adael ceulannau ar ei ôl.

A chyffyrddiad dy law yr wyt yn llonyddu'r afonydd trwy eu carcharu mewn rhew ac yn gwisgo ein mynyddoedd ysgythrog â llyfnder dihalog.

Rwyf wedi cael diwrnodau o'r fath a haul hyfryd yn cynhesu'r gaeaf, ac yr wyf wedi cael dyddiau gwych wedi i'r bechgyn fod allan yn torri tyllau yn y rhew er mwyn gallu rhoi'r abwyd allan!

Yma mae gewin y rhew yn crafu'n genfigenllyd o dan gesail y barrug pan fyn yr eira