Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.