Mae ymchwil yn cael ei wneud i geisio gwella dulliau rhewi semem hyrddod i ddatblygu'r defnydd o semenu artiffisial mewn defaid.
Dywed yr hen awdurdodau bod yn rhaid cael tywydd caled, a'r lein yn rhewi ym modrwyau'r enwair.
"Mae'n dda fod dŵr y môr yn gynnes hefyd yn y rhan yma o'r byd neu mi fuaswn wedi rhewi i farwolaeth," meddyliodd.
Dylid osgoi fel y pla unrhyw datws wedi eu paratoi yn barod, megis sglodion wedi rhewi a phowdwr i wneud stwns tatws, er eu hwylused.
Wedi darganfod dull o wneud rhyw fath o hufen iâ - rhewi llefrith a ffrwythau neu fisgedi siocled wedi eu cymysgu.
Mae'r hin wedi oeri'n arw a'r ddaear wedi rhewi'n gorn.
Gellir eu casglu, eu rhewi ac yna eu trosglwyddo i anifeiliaid eraill.
Ar ddiwedd y diwrnod roedd hi'n braf iawn cael sythu'r coesau a cherdded yn ol i'r gwesty yn hytrach na rhewi wrth aros ugain munud am y bws.
Pan es i atyn nhw yn y bora, roedd un wedi rhewi'n gorn yn lle odd o'n sefyll.
Daeth y si drwodd fod afon Tafwys yn Llundain wedi ei rhewi mor galed fel y gellid codi stondinau arni i werthu cnau castan poeth i'r rhai oedd yn sglefrio arni.
Rhegodd Ifor am funud solat a mwmblian rwbath am beipan wedi rhewi.
Mae tþb gyffredinol na ddylid gwneud hynny nes bod tymor rhewi drosodd.
Bydd llwydrew a barrug yn dew iawn hyd at yr arfordir gyda'r tymhereddd cyn ised a dau, neu hyd yn oed dri, gradd o dan bwynt rhewi mewn ardaloedd cysgodol.
Safai o hyd ar flaenau'i thraed tua hanner ffordd ar draws llawr y gegin, yn ei choban wen, a'i breichiau ar led fel petai ar ganol cofleidio rhyw berson anghwmpasadwy, a'i llygaid wedi rhewi'n fawr a chrwn fel dau blât piwtar.
"Awn ni ddim ymhell heno," meddai wrth y tri, "mae hi'n rhewi'n galed."
Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!
Rhowch "olau nos" o dano yn ystod y gaeaf i'w gadw rhag rhewi.
Cawsom gawod neu ddwy go drom o eira ar ôl te ac mae wedi rhewi yn galed dan draed, a phan beidiodd y cawodydd yr oedd yr awyr yn glir ac yn oer.
Enghreiffliau clasurol o'r adar sydd yn dod yma ydi'r wydd ddu o Sibiria, yr wydd wyrain o'r Ynys Werdd, elyrch o Ynys yr Iâ a Gogledd Llychlyn, a miloedd o rydyddion o'r gwahanol rannau gogleddol, fydd wedi rhewi'n gorn yn ystod y Gaeaf.