Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhidyll

rhidyll

Weithiau mae'n edrych fel rhidyll symudol anferth o oleuni, fel yn 'Y Gogarth o Fangor Uchaf', lle mae'r haul yn llithro'n esmwyth trwy orchudd tenau o gymylau i oleuo'r môr.

Mewn cyfnodau llwm ac annodd mae teyrngarwch yn rhywbeth sy'n dod i'r amlwg fel clapiau o aur mewn rhidyll.

Y dewis cyntaf fyddai casglu dail derw a ffawydd ar ôl idddynt ddisgyn, eu storio am ddwy neu dair blynedd ac yna eu gogrwn (rhidyllu) trwy ogr (rhidyll) gyda thyllau chwarter modfedd, a byddai yn barod i'w ddefnyddio.

Neu eu hanfon ar hyd a lled y ddaear ar ryw dasg megis cyrchu llond rhidyll o Wynt y Dwyrain, neu ddrych sy'n dweud celwydd.