Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhieingerddi

rhieingerddi

Mae cwestiwn dylanwad yn rhwym o wynebu unrhyw hanesydd llên sy'n ymwneud â'r 'rhieingerddi' ac nid yw'n syn ei gael yn dangos yr un math, onid yr union un gochelgarwch â T Gwynn Jones wrth ei ateb.

Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.

Haedda T Gwynn Jones glod arbennig am ganfod natur eithriadol ' rhieingerddi', chwedl ynatu, ac am dynnu sylw atynt.

Yn y cyfrwng hwn yn union y daeth T Gwynn Jones i'r maes gyda'i astudiaeth o Rieingerddi'r Gogynfeirdd, a chan dderbyn rhai o awgrymiadau'r ysgolheigion a fu'n gweithio ar Ddafydd ap Gwilym a gwrthod eraill ohonynt, ceisiodd ddangos fod yn y 'rhieingerddi' yr un math o farddoniaeth ag a geir yng ngwaith y Trwbadwriaid, a bod rhai o arferion y Trwbadwriaid gan y beirdd Cymraeg.

Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.