Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhifyn

rhifyn

Byr hefyd fu bywyd ei ddilynydd fel papur newydd Cymreig, Haul Gomer, a ddaeth i ben ei daith ar ol naw rhifyn.

Ymateg i Uno'r Capeli Bu ymateb diddorol i'r erthygl gan Gwenynen am uno'r capeli yn rhifyn mis Mawrth.

Cyn bo hir bydd tudalen gerddoriaeth yn niffyg unrhyw sylw gwerth chweil gan y cyfryngau Cymraeg eraill, a thudalen yn canolbwyntio ar un cell/rhanbarth pob rhifyn.

Ac fel y tystiolaetha'r rhifyn hwn o Aria, mae gan eisteddfodwyr o bob oed feddwl y byd hefyd o'r hen fythol ifanc Towyn.

Yn 'Atebiad y Golygydd i Lythyr Mr Saunders Lewis' yn yr un rhifyn cydnabu Gruffydd fodolaeth traddodiad ond fe'i cafodd ei hun yn anghydweld â diffiniad Saunders Lewis ohono.

Hwyrach y cawn air ganddynt ar gyfer y rhifyn nesaf.

Tair ceiniog oedd pris y llyfrynnau fel arfer, ond mae'n anodd iawn gwybod sawl copi o bob rhifyn a argreffid.

Fe gewch o fewn cloriau'r rhifyn hwn o'r Bont rhyw arwydd bychan o'r goleuni a'r llwyddiant hwn.

Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':

Yn y rhifyn cyntaf cyhoeddwyd erthygl gan Peter Bailey Williams, oedd wedi canfod "y gelyn yn brysur wrth ei waith", yn nes at adref, sef ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd o'i blwyf ei hun, yn nhref Caernarfon.

Paratoi amserlen o ddyddiadau cyhoeddi hyd at ddiwedd 1996 i sicrhau deg rhifyn y flwyddyn (dau ohonynt yn rifynnau dwbwl). Er ein bod ychydig ar ei hôl hi, byddwn wedi dal i fyny erbyn cyhoeddi'r rhifyn nesaf.

Yn od iawn am stori arall forol (suddo'r stemar fechan Teifi) yn y rhifyn dwytha y cafwyd peth ymateb.

Ym mhob rhifyn cawn arbrofion gwyddonol syml y gallwch chi eu gwneud eich hunain.

O hyn allan, felly, gan ddechrau gyda'r rhifyn cyntaf hwn o'r bumed gyfrol, fe geisir bob chwarter fwrw golwg ar faterion y dydd; ac os a'r simdde ar dan, na chwyned neb ei fod yn ddiwrnod golchi arno.

Dolur a achosir gan fath arall o gariad sy'n gwneud i Lewis Glyn Cothi alw ar Ddwynwen cariad tad tuag at fab a fu farw'n ifanc (gweler erthygl Dr Dafydd Johnston yn y rhifyn hwn - Gol.):

Cewch drafodaeth ar y gwahanol gynigion a chyflwyniad i aelodau newydd y Senedd rhwng cloriau'r rhifyn hwn o'r Tafod. Un peth sydd yn codi yn syth yw'r penderfyniad i newid dyddiad y Cyf Cyff i'r Gwanwyn.

Gofalai fod lle ym mhob rhifyn i newyddion yr eglwysi lleol, ynghyd â marwgofion byrion am bron pawb oedd yn gysylltiedig â'r mudiad yng Nghymru.

Yn y rhifyn a gyhoeddwyd ar ddydd y cyfarfdo bu'r Cymro, o dan y pennawd 'Bwgan Costau'r Brifwyl', yn tynnu sylw at bryder cynnyddol.

Diddorol iawn oedd darllen erthygl Myrddin ap Dafydd yn y rhifyn diwethaf.

Roedd yn y rhifyn erthyglau gan Ambrose Bebb, Saunders Lewis a Iorwerth Peate, cerdd gan Dyfnallt, a rhywfaint o newyddion y blaid.

Nid oedd dim amdani ond darllen rhyw ddau neu dri rhifyn o'r Ddraig Goch a oedd gennyf wrth law yn fy llety.

Fel esiampl o broblem i'w datrys, dychmygwch fod yn rhaid teithio o amgylch Cymru i ddosbarthu'r rhifyn hwn o Delta, ac mai dim ond un cerbyd sydd ar gael i wneud y gwaith.

'The Great Carbuncle' gan yr Americanwr Nathaniel Hawthorne, a'i chyhoeddi yn rhifyn cyntaf y cylchgrawn Gwalarn.

Gloywodd y golygydd yntau bob rhifyn â darluniau mlynedd ar ôl ei sefydlydd.

Erbyn trydydd rhifyn Tir Newydd mae'r 'golygyddol' yn sôn am gwyn nad oedd apêl cylchgrawn 'llenyddol yn unig yn ddigon eang.

Ar ôl y datganiad ifanc, hyderus yna dipyn o ddisgyniad yw cyfraniad cyntaf y rhifyn cyntaf, sef telyneg gan Geraint Bowen nad yw'n ddim ond adlewyrchiad o delynegaeth John Morris-Jones:

Bydd manylion llawn yn y rhifyn nesaf o'r Hogwr.

Yr oedd cyfoeth o ddarluniau ynddo hefyd, o leiaf un ymhob rhifyn mewn lliw.

Yn yr un rhifyn, aeth yr Athro Kevin Morgan, sy'n hen gyfaill i Rhodri Morgan, ati i nodi rhai o'r gwendidau.

(Gweler erthygl Jane Cartwright yn y rhifyn hwn.) Ar y llaw arall, mae'n ddiddorol fod y bardd yn cyfarch Mair, fel petai'n ymuniaethu â hi yn ei galar am ei mab cyn agor Ei fedd yntau.

Nid wyf am drafod y cynigion a drafodwyd gan eu bod ar gael yn y rhifyn diwethaf o'r Tafod.

Cyhoeddwyd y papur syn dweud hyn yn rhifyn Hydref o'r Economic Journal gan ddau Athro Prifysgol, Bruno Frey ac Alois Strutzer, sydd wedi dod i'r casgliad nad yw hyd yn oed penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio ar faint hapusrwydd pobol gyda datganoli - maen nhw jyst yn hoffi datganoli doed a ddel.

Rhifyn ola'r gyfres gwis ysgafn oedd hon.

Brechdan yn llawn o Dywod: mae'r pumed rhifyn o'r ffansin Brechdan Tywod newydd ei gyhoeddi ar tro yma fe gawn gyfweliadau gyda Gruff Rhys, Zabrinsky, Llwybr Llaethog a llawer mwy.

Am fanylion tanysgrifio i'r Tafod papur, neu i gyfrannu erthygl neu syniad, cysylltwch â tafod@cymdeithas.com neu â'r Brif Swyddfa. Rhifyn Diweddara

A'r un ymadrodd ddefnyddiwyd mewn rhifyn arall wrth adrodd am y cynnwrf a ddigwyddodd ym Mhwllheli wedyn.

HOGIA' ANHYGOEL!: Mae'n siwr eich bod yn cofio darllen yn rhifyn mis Mai o'r Llais am y ddau ŵr ifanc golygus y gwelir eu lluniau uchod.

Yn rhifyn mis Ebrill o'r Seren Ogleddol cyhoeddwyd nodyn yn cyfeirio at anghydfod yn nhref Caernarfon a fyddai'n arwain at ymadawiad disymwth allanwr arall, Josiah Thomas Jones, o'r dref.

Bydd tri neu bedwar rhifyn yn ymddangos ar y papur bob dydd.