Oherwydd gwelai Rhigyfarch y Normaniaid yn ail-lunio'r clas yn Llanddewi Brefi; ac yn wir nid oes gennym dystiolaeth bendant i'r clas oroesi'r cyfnewidiadau a ddaeth yn eu sgîl.
Ni welai Rhigyfarch lygedyn o obaith o gyfeiriad yr uchelwyr na'r arweinwyr o achos darostyngwyd y gorau a'r mwyaf urddasol ohonynt yn daeogion.
"Ceisiwch, medd Rhigyfarch, "y ffynhonnau dyfroedd a dyrr eich syched, dyrchefwch eich llygaid i fyny, a gwelwch y ceinder a'r harddwch sydd fry.
Teulu nodedig ac anghyffredin oedd teulu Sulien; roedd ei feibion Rhigyfarch, Arthen, Daniel ac Ieuan yn ysgolheigion o radd uchel.