Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhinweddau

rhinweddau

Gresynu oedd Ms Clwyd, ar ran 'miloedd o Eisteddfodwyr', ein bod wedi ymosod ar Mr Hague, 'blondyn bach del efo gwên ddigon o ryfeddod', rhinweddau gwleidyddol sylfaenol yn yr oes sydd ohoni -- well spotted Hefina.

Magodd y beirdd gydwybod gymdeithasol, a daeth canu i'r rhinweddau Cristionogol, megis sobrwydd ac elusengarwch, yn brif thema i'w gwaith.

I chi a mi heddiw mae'n ddrama hen ffasiwn iawn, yn llawn cymeriadau stoc, ond nid yw heb ei rhinweddau, a'r peth pwysicaf yn ei chylch yw ei bod yn llawn beirniadaeth gymdeithasol ar draha landlordiaid, rhagrith rhai crefyddwyr a pharchusrwydd cyfoglyd y dosbarth canol Cymreig newydd.

Mae yma i ddangos rhinweddau'r Hwn a'i galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni Ef ei Hun.

Ond pa wendidau bynnag sydd i mi þ a rhinweddau, rai, yn ddiamau þ buont yn gyfrwng i droi Huwcyn, Ffridd Ucha, maes o law yn Sir (nid Syr) Hugh Evan Rowlands.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Nid chwedl felly yw rhinweddau betys.

Ynddi adroddir hanes y bardd 'mewn capel llwydaidd' yn gwrando ar hen bregethwr yn annog rhinweddau diweirdeb a hunanddisgyblaeth yn enw 'y Duw fu ar y Pren'.

Cyfrifid ach dda yn gofnod o fawredd hynafiaid ac yn fodd i feithrin rhinweddau'r goreuon o'r rheini.

Nodwyd rhinweddau'r Pwyllgor Cyllid yn neilltuol.

Beth bynnag yw rhinweddau ardaloedd, a gwledydd eraill y byd, gallaf innau dystio fod bro fy mebyd a'i llechweddau yn 'myned o hyd yn fwy annwyl im'.

Rym ni i gyd yn llawer rhy barod i chwilio am wendidau'n gilydd yn lle darganfod rhinweddau.

Rhinweddau'r copr

Deuai sain bandiau milwrol yn gyson dros yr awyr, a rhwng hynny clywem areithiau tanbaid, i gyd mae'n siwr yn cyhoeddi rhinweddau y sustem gomiwnyddol, a chanu clodydd y chwyldro mawr a arweiniodd at y fath gyfundrefn lweyrchus.

Rhinweddau'r halen-chwerw Epsom

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Er enghraifft, taflu darn o lo i mewn i siop sy'n agor am y tro syntaf - y glo yn cynrychioli rhinweddau'r Fam Ddaear.

Anodd oedd cael amser i oedi a phwyso a mesur rhinweddau y gwahanol geffylau.

I mi nid ymddangosai un amser yn balchi%o yn ei rinweddau ei hun; ond pan welai'r rhinweddau hynny yn disgleirio hyd yn oed mewn graddau llai yn eraill, tywynnai ei wyneb gan ddedwyddwch.

Buasai unrhyw ddyn felly wedi cael ei gyfarch fel Meseia gan y bobl, ond Fidel yn unig a feddai ar y rhinweddau angenrheidiol.

Nid yw Hudson-Williams yn rhoi cymaint o sylw i'r pethau hyn; yn hytrach, y mae'n ceisio esbonio eu cymeriad fel pobl, gyda llawn cymaint o bwyslais ar eu gwendidau ag ar eu rhinweddau.

I grynhoi, mae rhinweddau'r llyfr hwn yn pledio'n gryf tros ei gyhoeddi.

Wrth 'go iawn' fe olygid nofelydd a allai hoelio sylw cynulleidfa, trwy adrodd stori afaelgar, llunio deialog fyrlymus a chreu cymeriadau amrywiol 'o gig-a-gwaed', fel y dywedir - nofelydd a oedd yn gyforiog o'r rhinweddau henffasiwn, os mynnir.

Treuliodd oriau difyr yn ystyried rhinweddau'r naill gi a'r llall.

Melltith y rhan fwyaf o eiriaduron yw y gellir wrth fynd trwyddyn nhw weld bylchau ac weithiau gall hynny ein dallu i'w rhinweddau.

Mae'n amlwg fod rhai o gwsmeriaid James Herriot yn credu'n gryf yn rhinweddau'r halen-chwerw.