Clywais ef yn dweud iddo eistedd oriau wrtho'i hunan ar y bryn a elwir 'The Hill of Tara' - hen gartref Uchel Frenhinoedd Tara - yn myfyrio am hen orffennol y genedl Wyddelig, a bron, meddai ef, na allai weld yr hen ogoniant yn rhithio o flaen ei Iygaid wrth eistedd yno.