A'r funud honno, fel tae o'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail.
Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!