Rhoddai ystyriaethau o'r fath ysgogiad i'r teulu hwn ac eraill cyffelyb iddo i ledu eu gorwelion cymdeithasol ac ennill cryn awdurdod iddynt eu hunain yng ngogledd Cymru.
Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.
Roedd Willie wedi penderfynu cyn cychwyn y rhoddai arian parod bob tro y gallai, rhag ofn iddo gael ei wneud wrth dderbyn y newid.
Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.
Rhoddai'r dyn llyfr bach enw'r pregethwr gyferbyn â'r Sul hwnnw yn 'i lyfr 'i hun, ,a rhoddai'r pregethwr enw'r eglwys gyferbyn â'r Sul yn 'i lyfr yntau.
Hyd yn oed yn yr oes pan fu'r addysg yn gyfangwbl Saesneg, rhoddai'r ysgol i'r disgyblion yr ymdeimlad o berthyn ac aethant i'r ysgol uwchradd fel 'criw' y pentref.
Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.
Rhoddai'r argraff fod popeth a wnâi ac a ddywedai cyn bwysiced â dim a gyfrannodd erioed, a'i fod yn anrhydedd o'r mwyaf iddo gael ei roi ac i arall gael ei dderbyn.
Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.
Rhoddai'r byd cyfan am fygyn.
arwyddlun o'r hil archolledig oedd y Cripil, y llwythau hynny o bobl y rhoddai Elystan unrhyw beth am allu eu hysgwyd o'u diymadferthwch a rhoi anadl newydd ynddynt.
Ar ddiwedd y wers rhoddai "fotwm gwyn" (egsdra strong) i bob un o'r plant.
Yn amlach na pheidio rhoddai Powell fwy o groeso i ateb anghywir a oedd yn ffrwyth meddwl neu ddychymyg nag i ateb cywir confensiynol a di-fflach.
Rhoddai Daniel gyfrif da ohono'i hun, â pha fesur bynnag y mesurid ef.
Rhoddai unrhyw beth i unrhyw un yn awr am gael bod ar fwrdd y llong yn lladd taeogion ar fwrdd chwarae Datini.
Paratôi'r ysgolfeistr ni'n drylwyr iawn at y Nadolig a rhoddai i ni hanes y Nadolig cyntaf mor ddiffuant fel nad oedd modd i'r un plentyn ei anghofio.
Rhwyg Rhoddai trefniadaeth fel hon gyfle i ddyn cryf ymarfer meistrolaeth tros y mudiad.
Mi fydd yn rhaid inni eich cadw'n ddiogel am 'chydig o ddiwrnodau.' Rhoddai yr argraff ei fod yn ddyn ifanc caredig iawn ond ni wyddai Glyn ei fod yn edrych ar un o smyglwyr cyfrwysaf y cyfandir.