Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhoddi

rhoddi

PENDERFYNWYD gohirio anfon sylwadau er rhoddi cyfle i Gyngor Tref Criccieth roddi sylwadau ar y mater.

Codai Phil y senglen at fwrdd y shêr, cymhwyso'r ochrau a'i rhoddi dan y gwasgwr.

Byddai fy ewythr Wncwl Jack yn rhoddi ffyrling wedi ei lapio mewn menyn i'w gi pan y byddai llyngyr amo.

Rhoddi tro drwy fynwentydd y cedyrn a gwympasant - a sefyll ar rai o'r meysydd a'r llanerchi ag ar ydym yn y pedair blynedd a basiodd mor gynefin â'u henwau ag yr ydym ag enwau ein mamau a'n chwiorydd, ar tai y'n ganwyd ynddynt.'

Yr ydych wedi rhoddi i lawr athrawiaeth ddogmatic bendant nad oes yr un rhithyn o braw iddi - na ellir llenyddiaeth fawr heb fod y syniad o bechod yn cael lle mawr yn y credo...

Eglurodd fel mae'r adran wedi rhoddi blaenoriaeth i'w baratoi, fel y bydd yn weithredol i'r ganrif nesaf.

Cwestiynau fel 'Gan bwy, wrth bwy, ac o dan ba amgylchiadau y llefarwyd y geiriau a ganlyn - "Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear?" "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" "Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar?" neu - 'Ysgrifennwch nodiadau ar Feibion y Proffwydi, Jehofa Jire, Salome, Cleopas.'

Yr oedd llyfryn yn rhoddi manylion am y cynllun wedi ei anfon at yr aelodau gyda'r rhaglen.

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn glynu at ei benderfyniad blaenorol y dylid rhoddi hawl i holl staff y cynghorau newydd i sefyll etholiad i fod yn aelodau ohonynt a phwyso am ddiddymu'r gwaharddiad sydd yn bodoli.

(ii) Adroddiad y Prif Weithredwr yn rhoddi amlinelliad o'r sefyllfa bresennol.

Byddai'r hen ffermwyr yn malu'r garreg-las ac yna yn ei chymysgu â sebon a'i rhoddi ar y crwn (ringworm) sydd yn cael ei achosi gan ffwng.

Ystyr þàçàþþàþþ yn llythrennol yw "rhoddi i lawr yr arwahanrwydd", ac fe'i cyfieithiwyd weithiau gynt fel "iawn" (gwelir hyn yn yr hen gyfieithiadau Saesneg lle defnyddir y gair "atonement").

CYFLWYNWYD llythyr y Rheilffyrdd Prydeinig yn rhoddi manylion am y posibilrwydd o gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Y mae effeithiau eithaf a gwaethaf yr arferiad mor eang ac amrywiol fel y mae yn amhosibl rhoddi cyfrif o'u nifer na mesur i'w hehangder."

Gohiriwyd anfon sylwadau yr adeg hynny er rhoddi cyfle i Gyngor Tref Criccieth roddi sylwadau ar y mater.

Yn hytrach na thrafod un testun fel ag y gwnaf o dro i dro teimlaf mai mwy priodol imi y tro hwn eto yw rhoddi sylwadau ar rai materion sy'n ymwneud â garddio a ddaeth i'm sylw trwy sgwrsio, cael fy nghwestiynu a darllen yn y wasg ddyddiol fel y digwyddodd yn ddiweddar.

'Arglwydd, ai'r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?'

(c) Mesuriadau Rheoli Trafnidiaeth, Beddgelert CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir yn rhoddi manylion am fwriad y Cyngor Sir i gyflwyno gorchymyn traffig er gwella'r tagfeydd a rhwystrau a oedd yn bodoli ar rai strydoedd yn y pentref ac yn gofyn am sylwadau'r Cyngor hwn.

A bydd ymateb Duw yn drugarog: bydd yn rhoddi maddeuant yn rhad am y pechodau mwyaf, os bydd y pechadur yn edifarhau a throi oddi wrth ei bechodau.

Mae'n pontio hanes y Cread - a mwy - oherwydd mae'n agor gyda'r paratoi ar gyfer y creu ac yn olrhain gweithgarwch Crist hyd at yr uchafbwynt pan fydd yn rhoddi'r Deyrnas i Dduw'r Tad.

Pan fydd y Cyngor yn gweithredu mewn unrhyw lys barn neu unrhyw dribiwnlys arall boed fel pleintydd, diffynnydd erlynydd neu mewn unrhyw ffordd arall, awdurdodir Cyfreithiwr y Cyngor ac unrhyw gyfreithiwr arall a fo o bryd i'w gilydd yn gweithredu ar ran y Cyngor ac i bob swyddog arall a gyflogir gan y Cyngor i wneud unrhyw beth a fydd ei angen er mwyn hyrwyddo'r achos ar ran y Cyngor gan gynnwys, ond heb ragfarn i unrhyw beth arall a fyddai angen ei wneud, cymryd pob cam gweinyddol i ddwyn yr achos gerbron y llys ac yn y llys, ymddangos mewn achosion i gyflwyno achos y Cyngor, casglu tystiolaeth ar gyfer yr achos, rhoddi tystiolaeth yn y llys, gwneud affidafidiau, cymryd pob cam angenrheidiol i orfodi penderfyniad y llys, adennill costau ac amddiffyn yn erbyn a negodi costau a ganiateir yn erbyn y Cyngor.

Ac os yw hynny'n wir, chwarae ag angau fuasai peidio â rhoddi ein holl ynni fel cyfraniad bychan at ymdrech Prydain i geisio cyflawni ei gwyrth.

Yr oedd yr Arglwydd Iesu, meddai'r pregethwr, wedi rhoddi gorchymyn i'r disgyblion fynd â'r llestr i Fethsaida i lan arall Môr Galilea.

Rhaid ei fod wedi rhoddi argraff dda iawn ar y Capten oherwydd nid oedd wedi hwylio gydag ef yn hir.

(ii) Adroddiad y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd yn rhoddi braslun o hawliau'r Cyngor o dan y ddeddf.

FODD BYNNAG nad yw'r drwydded hon ddim yn mennu ar berchnogaeth unrhyw hawlfreintiau na hawliau eraill o eiddo trydydd partion yn y Gwaith a chydnebydd a chytuna'r Cynhyrchydd nad yw'r drwydded a roddir yn unol â'r cytundeb hwn ddim yn rhoddi na chynnwys nac yn honni rhoddi na chynnwys unrhyw drwydded na chaniatâd ar ran unrhyw berchennog hawlfraint nac unrhyw berchen hawliau eraill yn y Gwaith i ddefnyddio atgynhyrchu neu gorffori y Gwaith yn y Rhaglen na hawl na thrwydded na chaniatâd i ddosbarthu nac arddangos y Rhaglen.

Gorfu i bawb ohonom lenwi ffurflen bwysig ymlaen llaw a rhoddi pob math o fanylion amdanom ein hunain.

'Rhoddi y vagabond pass i'r Jacs fynd ati i syllta', oedd hyn yng ngolwg Brutus, a synnai fod gweinidog mor uchel ei barch â Phylip Griffiths wedi'i iselhau ei hun drwy gymeradwyo'r arfer.J Dwg hyn ni at gymwysterau'r gweinidog ymneilltuol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Penderfynwyd derbyn y tendr isaf, a oedd yn rhoddi manteision ariannol sylweddol, a gyflwynwyd gan Gwmni Gwastraff Môn Arfon (cwmni a sefydlwyd ar y cyd gan Gynghorau Bwrdeistref Ynys Môn ac Arfon), yn hytrach na thendr Cwmni Llwyn Isaf Cyf.

(i) Sicrhau bod dyddiad yr etholiad cyntaf mor fuan â phosibl ar ôl derbyn sêl bendith y Frenhines, er mwyn rhoddi mwy o amser i'r Cyngor cysgodol i wneud penderfyniadau ynglŷn â fframwaith staff a system cyflawn gwasanaethau a.y.

(b) Gorchymyn Pedestrianeiddio'r Cyngor Sir - Sgwâr y Farchnad, Pwllheli CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio yn rhoddi manylion am gynllun ar y cyd â'r Cyngor Sir i bedestrianeiddio'r sgwâr uchod.

(ii) Bod y Prif Swyddog Cynllunio i baratoi adroddiad ysgrifenedig manwl ar y papur ymgynghorol a'i gyflwyno i'r Pwyllgor nesaf er mwyn rhoddi ystyriaeth lawn i'r mater ac anfon sylwadau cynhwysfawr i'r Swyddfa Gymreig.

Ymhellach, meddai, rhaid ystyried mai gosod ffiniau a rhoddi pwysau y mae'r is-ffurfiant ar sefydliadau'r uwch- ffurfiant, yn hytrach na gosod ffurf bendant, rhag-ordeiniedig arnynt.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar y cynllun uchod oedd yn rhoddi hawl i denantiaid brynu eu tai drwy newid o dalu rhent i ad-dalu morgais.

trwy ddod i gytundeb â'r cwmni, yr oedd david hughes wedi rhoddi caniatâd iddynt ddefnyddio ei ddyfais drwy'r holl o ogledd america, ond cadwodd yr hawliau eraill iddo ef ei hun.

Mae angen Deddf newydd sy'n rhoddi statws swyddogol lawn i'r iaith er mwyn i ni gael cydnabyddiaeth o Ewrop.

Er enghraiffl, dangosir ar un dudalen lun o ffarmwr yn rhoddi ffisig i'w ych drwy ddefnyddio corn buwch i ddal y diod.

Bellach nid yw'r mudiad yn rhoddi cymaint pwys ar y gweithgaredd pwysig yma, neu i fod yn gywirach, y mae'r awenau wedi symud o'n dwylo.