Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhoddwyd

rhoddwyd

Rhoddwyd galwad i'r Parchedig G.

Rhoddwyd tir iddo yn New Orleans, a chafodd swydd gyfrifol a lle i fyw ym mhlasdy Don Manuel Gayoso de Lemos, Arlywydd Sbaenaidd diwethaf Louisiana.

Rhoddwyd amser ac egni oddi ar hynny i ddilyn yr argymhellion hyn gan gynnal trafodaethau â chyrff megis Cyngor Ieuenctid Cymru.

Llwyddodd Eddie Butler a Jonathan Davies i osod eu stamp unigryw ar Gwpan Rygbir Byd gyda'r rhaglen boblogaidd Scrum V, a rhoddwyd her ychwanegol i'r tîm chwaraeon wrth i'r BBC sicrhaur hawl i ddarlledu Cwpan Rygbi Ewrop pan ddychwelodd gemau byw i deledu BBC Cymru ar nos Wener.

Rhoddwyd gwasanaeth newyddion BBC Radio Wales ar brawf - a dangoswyd ei fod yn wasanaeth o'r radd flaenaf - pan ddaeth yr arweinwyr cenedlaethol i Gaerdydd yn ystod mis Mehefin ar gyfer Cyngor y Gweinidogion Ewropeaidd.

Ar ryw brynhawn gwlyb fe'm rhoddwyd mewn ystafell ar fy mhen fy hun i basio'r amser gyda thwr o ddisgiau gramoffon.

O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.

Bu'r cydweithio yn dda a rhoddwyd yn hael, a'r cyfan yn rhoi peth ystyr i'r geiriau "gwneuthurwyr y Gair".

YN ystod y deng mlynedd diwethaf rhoddwyd mwy o sylw nag erioed i adnoddau'r môr.

Rhoddwyd Dei i eistedd ar gadair fregus yng nghanol y garej, a cherddodd Bilo o'i gwmpas gan edrych arno fel pe bai'n edrych ar fuwch cyn ei phrynu.

Wedi hynny, rhoddwyd galwad i fyfyriwr ieuanc a oedd yn terfynu ei astudiaethau yn y Coleg, sef E.

Er na chafodd hynny lawer o sylw gan y cyfryngau, rhoddwyd adran gyfan yn y Cytundeb ar hybu'r iaith.

Rhoddwyd hwb sylweddol i hyder dysgwyr a chynyddwyd y cyfleoedd iddynt hwy a siaradwyr brodorol i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd-bob-dydd.

Yn ychwanegol, rhoddwyd deuddeg sesiwn hyfforddi mewn Pencadlys Heddlu gan aelodau o'r grŵp.

Rhoddwyd gwaith i Ieus a dweud wrtho i wylio am greigiau.

Ac i'r perwyl hwnnw rhoddwyd iddo bwerau eang.

Rhoddwyd, hefyd, ddarpariaeth ar gyfer ei gostau teithio a chanpunt y flwyddyn i dalu i was am wneud y gwaith ar y tyddyn na fedrai ef ei hun ei wneud oherwydd pwysau ei ddyletswyddau.

Rhoddwyd bwriad yr holl ymchwiliad mewn geiriau sydd wedi dod yn enwog:

Rhoddwyd y penderfyniad a ganlyn i'r Gynhadledd ac fe'i derbyniwyd: "Fod y Gynhadledd hon yn datgan ei barn yn ffafr Deiseb o blaid hunan-lywodraeth seneddol i Gymru%.

Rhoddwyd Hanes yr Alwad gan Mr Lewis Owen, Ysgrifennydd yr Eglwys, a'r Siars i'r Gweinidog gan Ben Owen, Llanberis.

Rhoddwyd cyfweliadau personol i oruchwylwyr ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin a rhan o sir Benfro, ond wrth gwrs, nid oes sicrwydd bod yr wybodaeth ystadegol a roddwyd yn fanwl gywir, gan ei bod yn aml heb gadarnhad dogfennol.

Rhoddwyd cyfle i gynrychiolwyr y cynghorau cymuned roddi sylwadau, lle cyfeiriwyd at achosion penodol a cytunwyd bod cwynion penodol yn cael sylw.

Rhoddwyd y rhain gan Albion Concrete Cyf., a chawsan nhw eu cludo i'r union lecyn gan y fyddin, fel y gallai'r ysgolion gael naill ai fan plannu neu wely wedi ei godi.

Llwyddodd Eddie Butler a Jonathan Davies i osod eu stamp unigryw ar Gwpan Rygbi'r Byd gyda'r rhaglen boblogaidd Scrum V, a rhoddwyd her ychwanegol i'r tîm chwaraeon wrth i'r BBC sicrhau'r hawl i ddarlledu Cwpan Rygbi Ewrop pan ddychwelodd gemau byw i deledu BBC Cymru ar nos Wener.

Rhoddwyd terfyn ar drochi gorfodol gan y llywodraeth ddwy flynedd yn ol ac y mae pob corff sy'n ymwneud a defaid wedi condemnio cynnydd yn y clafr a ddigwyddodd oddi ar hynny.

Ymhen rhyw wyth neu naw mlynedd rhoddwyd galwad i'r Parchg.

Gwin cartref oedd yn y calabash a rhoddwyd pibau hir o bambw i bawb sugno drwyddynt, ac eisteddodd pawb i lawr o'i amgylch.

Yn nhref Llangefni ac yn ei chyffiniau mae nifer o byllau yn Afon Cefni, a rhoddwyd enwau ar bob un.

Yn sgil y gweithgarwch hwn codwyd to o gyfeilyddion fel Tom Morris, Maelor Richards, Jerry Hughes, Llew Hughes, a rhoddwyd cyfle i unawdwyr yr ardal arfer eu dawn - Susie Jones, Betty Davies, Vernon Parry, Ernest Thomas a Meirion Morris.

Rhoddwyd bwyd o'i flaen gan ferch ifanc.

Penderfynwyd fod yn rhaid saethu a rhoddwyd gorchymyn i bawb a weithiai yn y bonc islaw i adael eu bargeinion.

Rhoddwyd disgrifiad cyffredinol o blant ag anghenion addysgol arbennig fel rhai ag anawsterau dysgu byddai'n galw am ddarpariaeth arbennig.

Yn y sefyllfa gymysglyd hon rhoddwyd hawl i ddim llai na thri grŵp o nofwyr chwilio am y llongddrylliad ac o ganlyniad gweithiai gwahanol grwpiau ar wahanol rannau o'r safle.

Deallwyd yn y ddeunawfed ganrif fod Cowpog yn diogelu rhag y Frech Wen ac o ganlyniad i hyn rhoddwyd cynnwys pothelli Cowpog i mewn i fraich person a oedd wedi bod gerllaw rhywun â'r Frech Wen.

Yn Cardiff Singer Masterclass: An American in Cardiff rhoddwyd cyngor gwerthfawr i bump o'r darpar sêr opera gan Joan Sutherland, Carlo Bergonzi, a Sherril Milnes, tri o gantorion goraur byd a oedd hefyd yn feirniaid yn y gystadleuaeth.

Tynnwyd yr offer pysgota i mewn, rhoddwyd mwy o ddisel yn yr injan, ei thanio - a chychwyn draw am y creigiau duon ar Drwyn Dinas.

I'r ddeuddyn hynny y cyfrennid iddynt ddawn Duw y rhoddwyd yn llawn y fraint o fwynhau ' oes winwydd mewn gras union'.Er cryfed ydoedd yr elfen dylwythol ac er mor anodd ydoedd ymwrthod ag awdurdod y tad dehonglid yr ystad briodasol yn bartneriaeth Gristnogol, a phywsleisid yr angen am undod o fewn y briodas honno a allai adlewyrchu undod y wladwriaeth dan y Goron.

Rhoddwyd cyfle iddynt i gyd-drafod a mynegi eu barn ar y ddogfen ymgynghorol yn gyffredinol, ac yn benodol ar y rhannau ohoni a berthynai i'w priod feysydd.

Rhoddwyd croeso calonogol i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i BBC Radio Cymru fynd ar daith am wythnos o Gaergybi i Fae Caerdydd yn Taith y Cynulliad, gan barhau ag athroniaeth y sianel o estyn allan i'w chynulleidfa.

Rhoddwyd cefnogaeth ysgubol i'r Bloc que/ be/ cois gan gyfran helaeth o boblogaeth Que/ bec gan wybod mai nod gwleidyddol y Bloc yw sofraniaeth i Que/ bec.

Gwerslyfrau/ Cyfarpar Rhoddwyd y flaenoriaeth ar hyd y blynyddoedd ar y gwerslyfr fel y pwysicaf o'r adnoddau dysgu.

Yn ogystal, rhoddwyd bai ar ysgolion Sul am yr '...' .

Gan mai Enlli oedd yr unig ferch, rhoddwyd hi mewn cell ar ei phen ei hun.

Ar raglen Election Call Vaughan Roderick (ar y teledu a'r radio) rhoddwyd cyfle i bobl gyffredin holi arweinyddion y pleidiau yng Nghymru.

Rhoddwyd £250,000 i Fyddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer ei gwaith ymysg y rhai sy'n gaeth i gyffuriau yma yng Nghaerdydd.

I dorri'r ddadl, rhoddwyd y ffwlbart mewn cawell gyda'r ffureti, ac ymhen rhyw awr yr oedd y ffwlbart wedi cnoi trwy ddrws y cawell ac wedi dianc!

Yn y cyd-destun Cristionogol rhoddwyd ystyr newydd a llawnach i'r termau hyn i Iddew o Gristion, a daeth iddynt arwyddocâd cwbl newydd o fewn i'r eglwys.

Rhoddwyd sylw rheolaidd i bêl-droed Cymru gydol y tymor drwy gyfrwng gemau byw yng Nghwpan Premier Cymru ac adroddiadau ar Gynghrair Cymru.

Y mae dadansoddiad o nodau uchder ar fapiau AO, fel yr enwau Glan-yr-afon a Rhyd Lydan, yn tystio ymhellach i'r ffaith mai i'r gorllewin o'r llwybr presennol y gorweddai llwybr gwreiddiol Afon Cefni o ad-drefnu'r rhwydwaith traenio crewyd sianelau dwr hollol newydd, sianelau y rhoddwyd enwau penodol iddynt.

Rhoddwyd iddo fywyd newydd, a daeth yn ddinesydd Teyrnas Dduw.

Rhoddwyd dewis o naw testun i'r Beirdd ganu arnynt, testunau bucheddol gan mwyaf, ond ceir un ar 'Rhagoroldeb y Gymraeg' a'r llall ar y Maen Chwŷf.

Rhoddwyd yr holl sector, yn unigolion, yn gwmniau a Chyngor y Celfyddydau mewn cyfyng-gyngor aruthrol.

Rhoddwyd pedwar cyngerdd gan y Gerddorfa ym mherfformiadau Proms y BBC yn y Royal Albert Hall, a darlledwyd un ar rwydwaith BBC Un ar draws y DG. Perfformiodd y Gerddorfa Requiem Verdi hefyd mewn cyngerdd arbennig ar gyfer yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd, y noson wedi iddynt berfformio mewn cyngerdd gala awyr-agored yng Nghastell Caerdydd.

Rhoddwyd eitemau yn ystod y Gymanfa gan aelodau o Gôr Cymysg Morgannwg Ganol a'u harweinydd Mrs Kate Francis.

Yn fwy diweddar rhoddwyd pwyslais ar ystyried nodweddion y gellir eu mesur yn uniongyrchol, fel cynnyrch llaeth a phwysau.

Rhoddwyd rhywfaint o sylw i hyn yn y cyfryngau Cymraeg.

Symptom o'r elfen dawelyddol mewn Anghydffurfiaeth Gymraeg oedd mai ar ddeffroad enaid y rhoddwyd y pwyslais gan weinidog o nofelydd, er iddo ddewis cyd-destun hanesyddol a awgrymai ddeffroadau eraill.

Rhoddwyd sylw arbennig i draddodiad barddol toreithiog y cylch, gan gynnwys, yn naturiol, gerddi David Ellis, Penyfed.

Rhoddwyd cyfle i'r cynghorau cymuned roddi eu sylwadau, drwy gyfeirio at achosion penodol.

Cyhoeddwyd rhai ohonynt--stori'r 'Pysgodyn Mawr' ac eraill yn Canrif y Chwarelwr, ond y mae llawer eraill nas rhoddwyd ar bapur eto.

Cynrychiolent y pynciau y rhoddwyd prawf ar fy ngallu i'w trafod yn yr arholiad - Hanes, Cymraeg a'r Ysgrythur.

Yn ogystal â ffacsimile digidol, bydd y CD-ROM yn cynnwys adysgrifau a thrafodaeth lawn o'r llawysgrif, gan gynnwys yr holl dystiolaeth newydd am sut a phryd y rhoddwyd y llawysgrif at ei gilydd.

Yn gyntaf, rhoddwyd pwysau mawr ar y Pwyllgor Cynllunio i edrych yn fwy ffafriol ar geisiadau lleol am dai.

Ar raglen Election Call Vaughan Roderick (ar y teledu ar radio) rhoddwyd cyfle i bobl gyffredin holi arweinyddion y pleidiau yng Nghymru.

O ganlyniad rhoddwyd Rhybudd Cau ar yr eiddo.

Rhoddwyd Mrs Parker, a oedd wedi cael ei gwahanu oddi wrth ei merch yn y panig, ar dynfad arall.

Rhoddwyd cefnogaeth i sefydlu Cymdeithas Alzheimers yng Ngwynedd drwy helpu gyda theipio deunydd, postio llythyrau a chwilio am fannau cyfarfod addas.

Derbyniai'r is-bwyllgor adroddiad gennyf yn rheolaidd ar y sefyllfa ariannol a rhoddwyd sylw blaenllaw bob tro i'r gronfa.

Rhoddwyd y te gan aelod o'r clwb.

Rhoddwyd ei gweddillion i orffwys ym mynwent Trefriw.

Rhoddwyd cynnig gerbron Mr Matthews a Mr Hughes ynghylch datblygu canolfan gynghori newydd ym Mlaenau Ffestiniog trwy gyfrwng yr Arweiniad Gwledig neu'r Rhaglen Ddatblygu Drefol, ac yn arbennig ynglyn a chyflogi cynghorydd ariannol ar gyfer y ganolfan gynghori.

Cafwyd noswaith ddifyr a rhoddwyd croeso hefyd i Mr Cledwyn Jones mab Mr a Mrs Haydn Jones, Cil-y-Garth o Galgari, Canada oedd ar ymweliad a'i dad, sydd yn wael yn ysbyty Minffordd.

Yr oedd yn gymeriad lliwgar, yn heddychwr y rhoddwyd min ar ei dystiolaeth gan y clwyf a ddioddefodd fel milwr yn y brwydrau yn Nyffryn Somme yn ystod Rhyfel Byd I.

Rhoddwyd iddo hefyd drwydded gyffredinol i bregethu, fel nad oedd angen iddo chwilio am ganiatâd pob esgobaeth i bregethu ynddi yn ystod ei ymweliadau.

Yr ail beth sy'n destun pryder i ni yw'r "cofrestri menywod mewn perygl" y rhoddwyd cymaint o gyhoeddusrwydd iddynt.

Rhoddwyd yn hael a diflino o'u harbenigedd a'u hamser gan bawb.

Rhoddwyd ei weddillion ym medd y teulu ym Mynwent Seion, Llanrwst.

Rhoddwyd gwedd newydd ar ddiddordeb poblogaidd arall - coginio - gyda Angela Gray's Hot Stuff, wrth i Angela Gray deithio o amgylch Cymru yn chwilio am y cynhwysion a'r cogyddion gorau.

Agorwyd dau draen sylweddol i draenio wyneb y gors, yn gyfochr â'r brif afon ond y tu allan i'w hargloddiau Rhoddwyd yr enw Traen Menai a Thraen Malltraeth arnynt; ond enw pobl yr ardal arnynt y rhan fynychaf yw Yr Afon Fain.

Yn ystod y flwyddyn Sabothol a gymerodd Dyfnallt Morgan tua deng mlynedd yn ol, fe'm rhoddwyd i (a fyddai wedi dwlu ar gael bod yn ddisgybl i RT) yn athro ar ei weddw - arni hi a'r lodesi eraill a berthynai i ddosbarth allanol Dyfnallt ym Mangor, hyhi a'i chydlodesi a'r diweddar Mr RS Rogers (o annwyl goffadwriaeth).

Rhoddwyd y te gan Mrs Eluned Jones a'i drefnu ganddi hi a'r aelodau eraill.