Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhodio

rhodio

Hoff gennyf eiriau trawiadol Amig yn nrama Saunders Lewis Amlyn ac Amig am yr hyn yw ffydd: Rhodio fel un a wêl a gwybod nos y deillion Yw bywyd beunyddiol ffydd.

Roedd pawb yn y dre yn gwybod fel roedd hen brifathrawes ysgol y babanod yn rhodio strydoedd gweigion y dre bob nos.

'Roedd tlodi enbyd ym Mhrydain o hyd ac 'roedd llawer o waith i'w wneud cyn y gellid taflu ymaith yr hen gadwyni a rhodio'n rhydd.

Dyma ysbryd Caledfryn yn rhodio eilwaith.

Dywedodd wrthyt, ddyn, beth sydd dda a'r hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru ffyddlondeb, a rhodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

Mae'n byw ac yn rhodio felly yn llewyrch goleuni Duw.

John Williams, Brynsiencyn, bregeth Penry Evans ar 'Iesu yn rhodio ar y Môr' a glywsai pan oedd yn efrydydd yng Ngholeg y Bala.