I'r plant rhoes Gymru'r Plant, a llyfrau fel Llyfr del, Llyfr Nest, Llyfr Owen, Llyfr Haf.
Rhannodd Gideon ei filwyr yn dair mintai a rhoes utgorn a phiser yn llaw pob dyn.
Sylwyd eisoes mor effro oedd i broblemau a digwyddiadau cyfoes, a rhoes arweiniad sicr o'i gadair olygyddol i'w fudiad ar gwestiynau llosg a phwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, cymdeithas a chrefydd.
Hoff iawn oedd Megan o ganu - a hawdd Iawn iddi oedd rhannu; Rhoes oes i waith yr Iesu A dewr fu'n yr oriau du.
Dyma un o'r materion y rhoes y Trefnydd, J. E. Jones, fwyaf o sylw iddo a chryn orchest ar ei ran oedd ei lwyddiant i gyhoeddi a gwasgaru cymaint o ddefnydd.
Rhoes beth wmbredd o'i amser a'i ynni i sicrhau cyflawnder o feiblau Cymraeg.
Rhoes y mewnlifiad trwm cyn ac yn fwy byth yn ystod y rhyfel bwysau llethol wrth gefn y broses Seisnigo yn yr ardaloedd diwydiannol, tra oedd y rhyfel ei hun yn dyfnhau Prydeindod y Cymry.
Beth bynnag, ar ôl i Miss M. Rhys farw, gofynnodd ei chwaer, Miss Olwen Rhys, am gael y llyfr cofnodion cyntaf yn ôl o'r Llyfrgell Genedlaethol, a rhoes ef ynghyd â'r ail lyfr cofnodion i Syr Goronwy Edwards i'w cyflwyno ar ran y teulu i Lyfrgell Bodley lle cedwid y llyfrau cofnodion eraill a oedd ar glawr.
Gwisgodd Reg harnais a rhoes het galed am ei ben.
Rhoes hygrededd i Blaid Cymru yn arbennig yng Ngwynedd a Dyfed.
Rhoes ei adolygiad ar lyfr Undodaidd, fel Undodiaeth a Rhyddid Meddwl (T.
Rhoes gyfle iddo yn awr i gysylltu - neu, efallai, i ailgysylltu - â William Salesbury, gŵr a fuasai ar dân ers blynyddoedd am weld cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi i'r Gymraeg.
Rhoes clec sewin yn syrthio'n ôl wedi ei naid sbardun i ni roi'r gêr efo'i gilydd.
Rhoes gyfeiriad i'w ramantiaeth a chyfiawnhad drosti.
Rhoes ef yn ofalus yn ei boced cyn cychwyn i'w waith, gan addo iddo'i hun y pleser - efallai!
Rhys farw, gofynnodd ei chwaer, Miss Olwen Rhys, am gael y llyfr cofnodion cyntaf yn ôl o'r Llyfrgell Genedlaethol, a rhoes ef ynghyd â'r ail lyfr cofnodion i Syr Goronwy Edwards i'w cyflwyno ar ran y teulu i Lyfrgell Bodley lle cedwid y llyfrau cofnodion eraill a oedd ar glawr.
Yn ei dydd a'i thymor, rhoes y RHOS HERALD
'On'd ydan ni'n greulon?' Rhoes Rhodri blwc sydyn i glust ei wraig.
Fel bardd rhoes fiwsig i'w fynegiant; fel pregethwr rhoes ergyd yn y miwsig; fel digrifwr rhoes wên yn yr ergyd; ac fel dyn rhoes ddeigryn yn y wên.
Bu'n dyst i fwrlwm rhyfeddol iawn: 'Yma', meddai, 'y mae fy enaid wedi teimlo ei ingau dwysaf a'i lawenydd penaf.' Y diwydiant haearn oedd yn teyrnasu yn ystod ei gyfnod ef yn Nhredegar, a rhoes Nefydd ddisgrifiad byw o brofiad beunyddiol y gweithiwr haearn yn Nyffryn Sirhywi:
Yn ddiweddar rhoes ddisgrifiad byw o'i weithgarwch mewn dwy gyfrol arbennig o ddiddorol, sef Holy Ghostbuster.
Cyn agosed fyth ag a allai i ymyl uchaf y ddalen, yn ei iaith ei hun, dododd Mr Kumalo o Swasiland yn yr Affrig ei adnod, fel bachgen bach yn y seiat, a rhoes y Saesneg yn wylaidd rhwng cromfachau ar ei hôl: God is Love.
Rhoes hithau heibio'r cynllun i'w boddi ei hun a'i phlant gan fod ei hamgylchiadau wedi gwella'n sydyn.
Tua chanol nos, a'r gelyn yn cysgu'n drwm yn y dyffryn isod, rhoes Gideon arwydd a thorrodd pob gŵr ei biser a dechrau chwifio'r ffagl dân a bloeddio pob un ei utgorn nes i'r dyffryn grynu.
O ganlyniad, rhoes ddarlun llawnach a chywirach o'r dyn na neb o'i flaen.
Mwy na hynny rhoes y ddadl honno ar waith yn ei fywyd ei hun.
Hyd at yr adeg yma arferai gredu mai hi oedd piau'r pethau ychwanegol a ddeuai gyda'r defnyddiau ond yn awr sylweddolodd y byddai'n lladrata wrth fynd â'r bluen, ac er i'r bluen fod yn demtasiwn fawr iddi'r bore hwn, rhoes heibio'r arferiad.
Rhoes ganiatâd iddynt bregethu'r ffydd Gristnogol ac i droi pobl i'r ffydd honno.
Rhoes y chwyrnwr roch sydyn o brotest, ac yna bu tawelwch mawr.
Lawer tro dros y blynyddoedd rhoes barnwyr ar y fainc fynegiant hael i'w hedmygedd o'i adroddiadau.
Rhoes llyfr fel Rebecca Riots (David Williams) gyfle iddo dynnu sylw at gyfraniad Thomas Emlyn Thomas, y gweinidog Undodaidd o Gribyn, a'r gŵr a fu'n 'rebel dros ryddid y werin'.
Rhoes Waldo deyrnged i'w dad yn 'Y Tangnefeddwyr' Mae Gwirionedd gyda 'nhad meddai yn y pennill olaf, ac yn y trydydd, Angel y cartrefi tlawd Rhoes i 'nhad y ddeuberl drud : Cennad dyn yw bod yn frawd, Golud Duw yw'r awel fyd.
Rhoes y brwsh yn y bwced a honno ar lawr.
Rhoes y gorau i arlunio confensiynol er mwyn datblygu ei dawn arbennig at greu baneri protest allan o ddefnydd lliwgar.
Troes oleuni rhybudd y lori ymlaen a rhoes ei law ar y corn.
Ar yr un pryd, rhoes ei hyfforddiant mewn Lladin fynediad rhwydd iddo i drysorau byd clasurol Rhufain.
Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.
Er mai dim ond wyth mlwydd oed oedd ef, ymunodd Dean â Brigâd Ambiwlans Sant Ioan ac yn ei flwyddyn gyntaf rhoes gant chwe deg pum awr o'i amser ei hun i'w helpu.
Gostyngodd ei llais a rhoes y gwpan i lawr: 'Paid â rhoi gorau iddi.'
Roedd merch yn eistedd ar fainc ac wrth imi ofyn a oedd ganddi newid o ddeuswllt, dywedodd Brynle, 'He wants to watch trains.' Gyda gwên arbennig i mi, rhoes y ferch bedair ceiniog imi a dweud, 'There you are dear, you go and watch your trains,' fel petai'n ansicr o'm hoed.
Roedd hi'n ddau o'r gloch y bore ar y ddau yn mynd i'w caban a chan nad oedd y gwelyau cyfyng yn addas iawn ar gyfer gweithgareddau carwriaethol, rhoes Merêd y syniad o geisio ailgynnau nwydau Dilys o'r neilltu am y tro.
Rhoes ei stamp yn drwm ar y cylchgrawn mewn dwy ffordd, trwy fynnu cyfraniadau cymharol fyr, bywiog, graenus (cywirai a chwtogai'n gall), a thrwy ddenu awduron ifainc i gyhoeddi ynddo.
Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl.
Wedyn rhoes ei dwy law yn ôl ar y llyw.
Mae yma nifer da o'r dyfyniadau mwyaf arferedig yn yr iaith Gymraeg, a rhaid imi gyfaddef imi gael fy synnu wrth weld enwau'r rhai a'u rhoes yno: dynion a berchid yn fawr ac a gyfrifid yn 'rhywun' yng ngolwg y cyhoedd.
Rhoes y golygydd, a gymerai gymaint o ddiddordeb yng ngorffennol byw ei fudiad, gyfle i'w ddarllenwyr gael golwg ar gynnwys rhyfeddol dyddiaduron pwysig fel eiddo Evan Humphreys, Pen-lôn; John Jenkins, Glynmeherin; Gwilym Marles,i Llwyn, a John Thomas o Landysul.
Rhoes ddyfyniad o eiddo Thomas Carlyle ar wyneb-ddalen y pamffled: '...'
Rhoes y ferch ychydig o sacarîns yn y jar nes bod ewyn gwyn yn codi ynddo fel glasiaid o gwrw.
"Tyn dy gôt." Wrth fy nghynorthwyo rhoes bwniad neu ddau imi yn fy asennau.
Gwell i ni fynd tra bod cyfle gyda ni.' Rhoes Michael bwli ar y wifren dynn a chan wthio'i hun i ffwrdd o sil y ffenestr gyda'i draed llithrodd i lawr.
Ar ôl ychydig o siarad aeth y brawd ati i atgyweirio'r gwely a'r tro hwn rhoes waelod tipyn cadarnach iddo.
'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.
Rydw i'n siwr mai ffrwydryn yw e.' `Iawn - fe fyddwn ni gyda chi cyn pen dim.' Rhoes Swyddog Gwaredu Bomiau'r Fyddin y ffôn i lawr a galw ar ei sarsiant.
`Beth wyt ti'n feddwl yw e?' `Dydw i dim yn gwybod.' `Paul - edrych di.' Rhoes Paul ei law yn y wardrob a gafael yn y parsel.
Rhoes gyfeiriad newydd i'r ymgyrch genedlaethol a gwae ni os barnwn y gellir cau'r adwy ar y cyfeiriad hwnnw yn y cyfnod cyfansoddiadol-gysurus hwn o Ddeddf Iaith newydd a Senedd i Gymru bosibl.
Rhoes y brenin ganiatâd i Bec hefyd wneud eglwysi prebendaidd ohonynt, neu i berthyn i eglwysi a oedd yn brebendaidd yn barod.
Er enghraifft, rhoes y llyfr Y Pêr Ganiedydd (Gomer Roberts) gyfle iddo sylwi ar hen ysgrifau enwog Gwilym Marles ar yr un emynydd, a'r ddwy farn amdano.
Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.