Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhondda

rhondda

Geni'r nofelydd Gwynn Thomas yn Y Porth, Cwm Rhondda.

Fel hyn, rwyn siwr, y teimlai Charlie wrth fynd i mewn i'r ffatri Siocled - ond hen ffatri bop yw hon yn y Porth, Rhondda.

Gwrthododd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, gyfarfod â 200 o lowyr di-waith a orymdeithiodd 180 milltir o'r Rhondda ym mis Tachwedd.

Bu'r rhieni yn amyneddgar am amser hir ac ni phallodd eu brwdfrydedd a'u penderfyniad i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i'w plant yn y Rhondda.

Nyrs oedd hi wrth ei galwedigaeth ac yn enedigol o'r Rhondda.

Daeth Cwm Rhondda o'r golwg a'r ddau fynydd cyntaf i mi gofio eu gwld erioed, sef Penpych a Moel Cadwgan.

Nid tafodiaith y Cei oedd tafodiaith yr aelwyd a chlywn gryn dipyn o Welsh English y Rhondda o enau fy mam a 'nhad.

14.6% o blant Y Rhondda'n dioddef o ddiffyg maeth.

Ac yntau'n dod o'r Rhondda ac wedi bod yn athro yn Ysgol Rhydfelen am flynyddoedd, roedd John Owen eisio wynebu'r cwestiwn o agwedd y bobol ifanc at yr iaith.

Tynnodd cyfaill fy sylw at lun yn y Rhondda Leader o ddarpar ymgeisydd seneddol Llafur y Rhondda gydag asyn.

Pan edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd a chofio fel yr oedd hi yn y Rhondda pan oeddwn i'n mynychu Ysgol Ramadeg y Merched yn y Porth (y pryd hwnnw y 'Conty School for Girls' na feddyliodd undyn byw am ei galw wrth ei henw Cymraeg) y mae'r sefyllfa wedi newid yn fawr ac er daioni.

Ystrad Rhondda Mehefin 9 Eluned Morgan, Aelod o Senedd Ewrop; Jill Evans, Aelod o Senedd Ewrop; Owen T Jones, gwyddonydd a dyn busnes.

Ymhen tri mis, cerddasai glowyr pob un o lofeydd y Cambrian ma's yng Nghanol y Rhondda, er dangos cydymlyniad â dynion Ela/ i.

Mewn gwirionedd, yr hyn wnaeth e oedd dangos effaith cyfalafiaeth - cydymdeimlo'n llwyr â'r glowr yr oedd e." Roedd y darlun yn Cwmglo yn un cwbl gywir yn ôl un o ffrindiau Kitchener Davies o'r Rhondda, y nofelydd a'r bardd Rhydwen Williams, un o'r ychydig prin sydd wedi sgrifennu'n blaen am fywyd y cymoedd glo.

Mae'r hanes am Gwm Rhondda yn fwy calonogol o lawer er y buwyd yn hir yn disgwyl ac yn gweithio dros ysgolion Cymraeg uno, ysywaeth.

Dyn a menyw, glowr ac athrawes, comiwnydd a chenedlaetholwraig, Rhondda Saesneg ac Arfon Gymraeg, mae'r gwrthgyferbyniadau'n amlwg, ac fe gant eu hadlewyrchu'n glir yn eu gweithiau.

Bron i 200 mlynedd o weithio glo yn Y Rhondda yn dod i ben pan godwyd y glo olaf yn y Maerdy.

A thra mai sgert fer a nosweithiau hir yw natur Sheryl, pell iawn yw hyn o natur bywyd Lisa Victoria, sy'n wreiddiol o'r Rhondda ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Dim ateb gan Afan Nedd, Rhondda Cynon Tâf, Caerdydd, Penybont, Blaenau Gwent, Casnewydd, Bro Morgannwg.

Lladdwyd nifer o bobl ar draws Cymru, yn Rhosllannerchrugog a Phencae, Clwyd, Pontrhydyfen, Port Talbot, Y Rhondda a Chasnewydd.

'O, rhyw bensaer bach ifanc wedd e - o barte Cwm Rhondda neu lan ffor'na rhwle.

Fe'i ganed hi yn y Dinas, Rhondda yn ferch i Benjamin Rees o Eglwysilan ac Ann Butler o Landwyfog, Cwm Ogwr, ac yn Nhreorci, y Rhondda y digwyddodd i 'nhad a'm mam gael eu geni.

Fe fydd drama newydd gan Sion Eirian yn ymwneud â phuteiniaid Cymraeg eu hiaith ac fe fydd nofel gan John Owen o'r Rhondda yn rhoi 'bratiaith' a rhegfeydd yng ngenau plant yr ysgolion Cymraeg.

Mr Annie Powell, Maer Comiwnyddol cyntaf Prydain, yn cychwyn ar ei swydd fel Maer Y Rhondda.

Y flwyddyn wedyn, fe gafodd y ddrama ei pherfformio yng Nghwm Aman ac yna yn y Rhondda, yr union gwm lle'r oedd y digwyddiadau wedi eu gosod.

Cyfrannodd BBC Cymru at Sound Stories, a ddilynodd lwyfannu drama gerdd amatur uchelgeisiol yn y Rhondda.

Ond nac anghofiwn am yr ysgol honno lle cafodd cymaint o blant y Rhondda eu haddysg uwchradd.

Yn ystod fy nhymor yn fyfyriwr yn y Brigysgol yng Nhaerdydd, yn athro yn Nhonyrefail ac ym Mhenbre, Llanelli ac yn ddiweddarach yn Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yn y Rhondda y cefais wir gyfle i hel y ffeithiau a hynny oddi ar berthnasau pell ac agos ac o archifdai, llyfrgelloedd a cherrig beddau, a bu'r wybodaeth yn gaffaeliaid ac yn iechyd i'm meddwl a'm hysbryd.

Ychydig dros hanner canrif yn ddiweddarach aeth Mr D J Williams Yn Chwech ar Hugain Oed i'r pyllau glo yng Nghwm Rhondda.

Roedd un o'r tai wedi'i brynu gan wr a gwraig o'r Rhondda, oedd yn rhedeg busnes yn Llunden ar y pryd, ac yn bwriadu ymddeol i Lan-y-fferi ymhen dwy flynedd.

Bwydir yr ysgol Gymraeg gan bedair ysgol gynradd, dwy yn y Rhondda Fach a dwy yn y Rhondda Fawr - Ynyswen, Bodringallt, Llwyncelyn, a Llyn y Forwyn.

Sefydlwyd rhai canghennau newydd yn ystod y flwyddyn, yng Nghoed-poeth, y Bermo, Penrhyndeudraeth, Dyffryn Teifi, Wdig ac Abergwaun, Maesteg, y Rhondda, ail gangen yn Llanelli, a changen ymhlith staff Cyngor Dosbarth Castell Nedd.

Maen hen, hen, ddywediad yn y Rhondda fod y gefnogaeth i Lafur yn un mor unllygeidiog y byddai mul yn cael ei ethol pe byddain sefyll yn enwr blaid.

O'r diwedd nid oes raid i blant y Rhondda fynd bob cam i lawr i Rydfelen.

Hwn oedd y ffrwydrad olaf mewn gwaith glo yn Y Rhondda.

Mae hwn yn cael ei sgrifennu gan bobl ifainc Beddau, Rhondda Cynon Taf, gyda'r cyfansoddwyr John Hardy a Luke Goss.

The Miner's Next Step a gyhoeddwyd yn y Rhondda yn galw am newidiadau sylweddol mewn perchnogaeth a rheolaeth glofeydd.

Ganwyd fy mrawd yn y Cymer, Porth, Cwm Rhondda.

Is-etholiad Gorllewin Y Rhondda a Phlaid Cymru yn dod o fewn 2,306 i'r Blaid Lafur.

Ar y dechrau, bu'r Ysgrifennydd Cartref Winston Churchill yn betrus, ond cyn bo hir rhoddodd rwydd hynt i'r ceisiadau am Gatrawd Gwyr Meirch a throedfilwyr yn y Rhondda, yn groes i ewyllys RB Haldane, yr Ysgrifennydd Rhyfel.

Yr oedd dydd Llun yn ddiwrnod mawr yn Y Porth, Rhondda, pan agorwyd yn swyddogol hen ffatri ddiod pop Corona yn ganolfan heb ei hail ar gyfer y diwydiant adloniant Cymraeg.

Taniwyd y wreichionen gyntaf ym Mhwll Ela/ i ger Pen-y-graig, yn y Rhondda, pan gaewyd y glowyr allan gan Gwmni'r Cambrian a'i bennaeth DA Thomas (cyn-Aelod Seneddol o Ryddfrydwr), wedi i'r dynion fynnu rhagor o arian am weithio mewn 'mannau anghyffredin'.

Noah Ablett yn ffurfio'r 'Plebs League' yn y Rhondda er mwyn gorchfygu cyfalafiaeth drwy weithredu'n uniongyrchol.

33 yn cael eu lladd yng nglofa'r Cambrian yn y Rhondda a 119 yn marw mewn ffrwydriad yng nglofa National Rhif 2 yn y Rhondda.

Peidiodd Y Rhondda a bod yn gwm diwydiannol a rhannodd gydag ardaloedd tebyg y cyfnewidiadau ysgytiol a ddilynodd gwymp yr hen ddiwydiannau trymion - glo, dur a llechi.

Terfysg ym Maerdy, Y Rhondda, a 33 o ddynion a thair merch yn mynd i garchar.

Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.

Ac er bod dyn ifanc di-goesau yn begera wrth borth y capel yn Laitumkhrah, roedd y llyfr emynau o roddwyd imi ar ddechrau'r gwasanaeth yn llwythog gan enwau cynefin: Treforus, Cwm Rhondda, Rhosymedre, Abertawe, Capel y Ddôl, Blaenwern...

Ganed y Dr John Davies yn y Rhondda, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Nhreorci, ym Mwlchllan, Tregaron, ac wedyn ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt.

Gallai fy nhad, Joseph Davies, siarad Cymraeg - 'Rhondda Welsh', fel y dywedai (heb falchder, gwaetha'r modd) - ond ni siaradai Gymraeg ar yr aelwyd gan mai di-Gymraeg oedd fy mam.