Mae gan bob un o'r baeau o gwmpas Bro Gþyr ei hynodrwydd daearegol ei hun megis ffawtiau Bae Caswel, neu ffosiliau cregyn Chonetes ym Mae Three Cliffs, ond fe awn ni ar ein hunion ar y daith fer hon i ben draw'r penrhyn ym Mae Rhosili a Phen Pyrod.
Os y dychwelwn o Fae Rhosili i Abertawe ar draws y ffordd sy'n mynd ar hyd Cefn Bryn, gellir gweld y Cerrig Brown Defonaidd sy'n gorwedd o dan yr amryfaen cwarts.
Uwchben Bae Rhosili gellwch weld y gefnen o'r Hen Dywodfaen Goch ar dwyndir Rhosili.