Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhostir

rhostir

"Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar stori." "Mi wyddost am y rhostir anial sydd yna y tu allan i bentref Plouvineg ac am y meini hirion anferth sydd yno?" meddai'r ych.

Am y rhostir maith hwn a eilw'r Sais yn Denbigh Moors a ninnau Hiraethog yr ysgrifennodd T. Glynne Davies ei 'frawddegau':-

Trist meddwl fod arwynebedd y rhostir arbennig wedi ei gwtu%o efo coed, a chynllun adennill porfa yn lle mawnog o siglen, - cynefin y dylluan glustiog a'r cudyll bach yn prysur gilio ...

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

"A phe bai unrhyw un ar y rhostir yn ystod yr ychydig funudau hynny, mi allai weld yr olygfa ryfeddol hon a chael cip ar y trysor," meddai'r ych.

"rydw i wedi eu pasio nhw droeon ar fy nheithiau yma ac acw ac wedi diolch bob tro nad y fi fu raid llusgo'r fath lwyth o gerrig i fyny i'r rhostir.

Ymestynnai'r ffordd dros y rhostir at ben y clogwyn yn unig ac yn wag yn nhywyllwch y nos.

Ni fydd y meini byth yn gadael y rhostir ond am ychydig funudau yn unig ac yna mi fyddant yn rhuthro yn eu holau yn wyllt er mwyn gorwedd ar y trysor am gan mlynedd arall." "Wel wir, wyddwn i erioed mo hynny o'r blaen," meddai'r asyn.