Os trof fy wyneb tua'r gogledd, dros y bencydd moel a'r rhosydd llaith, heibio i Gnwc-y-frân a thros afon Carrog ar hyd Cefn Du ac ymyl Penlanolau, dof at fy hen gartref yng nghysgod y graig yn ymyl y llyn.
O'r cwmwd aethom dros y bencydd a'r rhosydd yn fintai fechan o blant o bedwar cartref i'r ysgol, lle'r agorwyd inni feysydd a bydoedd newydd o oleuni.
Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.