Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhuddin

rhuddin

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

Diolchais innau i'r Arglwydd am Ei esboniad, gan gofio am eiriau'r bardd Waldo Williams: Yng ngwreiddyn Bod nid oes un wywedigaeth, Yno mae'n rhuddin yn parhau.