Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhufeinig

rhufeinig

Teithiai rhai ohonynt dros y ffyrdd Rhufeinig ­ deuai eraill dros hen lwybrau Pumlumon i Geredigion.

Anodd i Ewropeaid a fagwyd yn y traddodiad gwleidyddol Rhufeinig ydyw ystyried unrhyw beth heblaw gallu awdurdodaidd yn sylfaen bywyd gwleidyddol, ond egwyddor waelodol athroniaeth Gandhi oedd gwasanaeth.

A fydd eu plant yn gwneud eu gwaith cartref mewn llythrennau Rhufeinig ynteu mewn sgript Gyrilaidd, ynteu mewn Arabeg?

Arthur, ebr ef, oedd yr olaf o'r Rhufeiniaid ym Mhrydain, neu o leiaf o'r Brythoniaid i ddeall syniadau Rhufeinig ac i'w defnyddio er budd i'w bobl ei hun.

Milwyr Rhufeinig oedd y cyntaf i ddod â'r grefydd Gristnogol i Gymru.

Trwyn cam oedd ganddo fe - wi'n credu ma trwyn Rhufeinig yw disgrifiad yr arbenigwyr ohono fe.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

Wrth i ni edrych ar waith y rhan fwyaf o feirdd Cymraeg trwy'r oesoedd, ni fyddwn yn gweld mwy nag ychydig iawn o olion i ddangos iddynt gael addysg glasurol, ac iddynt fod yn ymwybodol o'r traddodiad Groeg a Rhufeinig mewn llynyddiaeth a barddoniaeth.

Symudir yn yr adran nesaf i drafod yr atalnodau, y priflythrennau, sut i bwysleisio'n gywir ac ymlaen wedyn i ddadansoddi tro%ellau ymadrodd, y byrfoddau, y rhifolion Rhufeinig, geiriau cyffelyb eu sain ond gwahanol eu hystyr.

Yn y cyntaf, er enghraifft, ceir peintiad adnabyddus Syr E. J. Poynter, Ffyddlon hyd Angau, llun canwriad Rhufeinig yn glynu wrth ei le pan oedd y diluw tân yn disgyn ar dref Pompeii.

Y mae'n gweld Arthur, a chaniatau ei fod yn berson gwirioneddol, yn fwy o ffigur Celtig na Rhufeinig, yn debycach i Finn yn nhraddodiad Iwerddon nag i'r Comes Britanniarum.

A diau fod hwnnw yn fwy Celtig na Rhufeinig.

Ac yr oedd yn Blas - gatiau crand a stepiau yn arwain at bileri Rhufeinig, ac oddi mewn i'r neuadd fawreddog paneli o luniau lliwgar ar y waliau.

Y mae Tegid yn fenthyciad o'r enw personol Rhufeinig Tacitus.

Prin y gall neb yr amddifadwyd ei fro o reilffyrdd gan y Dr Beeching cul ei welediad ymatal rhag hanner addoli'r Rhatische Bahn, rheilffordd y canton, y Ferrovia Retica, y Viafier Retica (Rhaetia yw hen enw Rhufeinig y rhanbarth).

Yn ei berson ef gwelai Collingwood ymgais ar ran y brenhinoedd hynny i atgyfodi swydd y Comes Britanniarum, a fuasai'n bwysig yng nghyfnod y meddiant Rhufeinig ar Brydain.

Ond fe gred eraill mai benthyciad ydyw o'r enw Rhufeinig Vitalis, enw sant a ferthyrwyd yn Ravenna ynghyd a'i wraig Valeria yn yr ail ganrif.

Llanio oedd eu canolbwynt yn y cyffiniau ­ yr oedd yn wersyll parhaol ac ef oedd yr unig sefydliad Rhufeinig yn y sir.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Ef, wrth fynd â mi o gwmpas y wlad i weld hen olion Rhufeinig a chromlechau a chutiau Gwyddelod a phethau felly, a'm symbylodd i brynu llyfrau ar bynciau hynafiaethol Cymreig.

Byddai yr enw Rhufeinig Vitalis yn rhoi Gwidol yn Gymraeg.

O achos hyn, at ei gilydd, darlunnir Rhufain a'r llywodraethwyr Rhufeinig a'r gwareiddiad Rhufeinig yn dra didramgwydd yn yr Efengylau ac yn Llyfr yr Actau.

Yma ceir gwybodaeth ynglŷn â tharddiad y Celtiaid a'u ffordd o fyw, ac am effaith y goresgyniad Rhufeinig ar Ynys Môn.

Rhaid inni gofio bob amser i'r efengylau gael eu hysgrifennu i fynegi ffydd y Cristion yn ei Grist a hefyd i gyflwyno'r genadwri Gristnogol mewn dull a fyddai'n ennill diddordeb ffafriol y byd Rhufeinig.