Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhugl

rhugl

Y tro cyntaf y bu Waldo yn Iwerddon, dywedodd wrthyf iddo orfod teithio 'mhell cyn y gallodd glywed y Wyddeleg yn cael ei siarad yn rhugl ac yn naturiol gan bobl wrth eu gwaith bob dydd.

Mewn degawd mae'r ferch a aned yn Llundain i rieni o Indiar Gorllewin wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, yn dysgur iaith yn ysgol uwchradd Cantonian Caerdydd ac yn cyflwyno ei rhaglen radio ei hun.

Dim ond 18% a deimlai eu bod yn rhugl yn y Gymraeg.

bod disgwyl i holl staff y Cynulliad fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Does dim pwynt dweud wrth rywun am fynychu dosbarth unwaith yr wythnos am flwyddyn os ydy e neu hi am fod yn rhugl ar ddiwedd y flwyddyn honno.

Mae'r rhan fwyaf yn adnabod o leiaf un oedolyn arall sy wedi llwyddo i ddysgu'r Gymraeg yn rhugl, ac yn y modd hwn dymchwelwyd y mur seicolegol a oedd yn dal rhai yn ôl am na allent gredu ei bod yn bosibl iddynt hwy siarad a deall Cymraeg.

Mae lefel y galw hwn yn gyson ymhlith siaradwyr rhugl a dysgwyr.

Yr un wythnos y dywedwyd hynny datgelwyd hefyd fod merched gyda geirfa dda yn cael eu hystyried yn fwy secsi gan ddynion na merched llai rhugl.

Mae cynyddu nifer y plant sy'n rhugl yn y Gymraeg erbyn eu bod yn 11 oed yn nod amlwg hefyd.

Roedd hi'n syndod mor rhugl yr anghofiasent bris defaid, y tywydd, a ffolinebau'r llywodraeth a'r Farchnad Gyffredin.

Dilynodd Yn ôl i Berlin Marion Loeftler (yn wreiddiol o Berlin ond bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gweithio yn Aberystwyth) ar daith ddadlennol yn ôl i'w dinas enedigol.

Aeth i ffair Fawrth y Cerrig, lle roedd show fawr, a'r showman ar lwyfan o'i blaen yn traethu am y rhyfeddodau oedd i mewn, mewn rhaff o Saesneg mor rhugl â Phistyll Sibyl.

Byddai hyn yn cynnwys gweithredu polisi cryf o ddysgu Cymraeg a thrwy'r Gymraeg gyda chefnogaeth adnoddau digonol yn holl ysgolion a cholegau Cymru fel bod pob disgybl ym mhob rhan o Gymru yn cael y cyfle i fod yn gwbl rhugl yn y Gymraeg erbyn 11 oed.

Yn y Gymraeg y siaradai, gallasai fod yn ben tost i'r cyfieithydd ar y pryd ond mae'n siwr iddo gael y cwbl ymlaen llaw a throsi'r wybodaeth i'r iaith fain yn rhugl a rhwydd.

Dylai pob disgybl, erbyn iddo orffen ei addysg orfodol yn 16 oed fod wedi dod yn eithaf rhugl yn y Gymraeg.

Er ei fod yn ymddangos yn gryn gaffaeliad siomedig, ar adegau, yw y Geiriadur Idiomau o safbwynt y rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg.

Ar un adeg buasai'n fyfyriwr mewn coleg yng Nghymru a gallai siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn rhugl mewn sawl iaith, daeth draw i Gymru ryw ddeng mlynedd yn ôl a dysgu'r Gymraeg yn Llanbedr pont Steffan.

Yn ôl yr ymchwil mae canran y Cymry Cymraeg rhugl eu hiaith wedi disgyn o 62% yn 1991 i 54% heddiw.

Mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith mae digon o gyfle i ymarfer siarad, ond profiad nifer sy ddim yn ddigon rhugl yw iddynt gael eu boddi gan y môr o gymreictod.

Ond, mae sefydliad dwyieithog lle mae'r aelodau i gyd yn rhugl mewn un iaith a lleiafrif yn unig yn rhugl yn yr iaith arall yn dra gwahanol i sefydliad lle mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn hollol ddibynnol ar gyfieithu llafar ac ysgrifenedig.

Mae yn amlwg fod yna nifer o aelodau rhugl eu Cymraeg yn ystyried nad yw'r Gymraeg yn werth trafferthu â hi.

Nid ydynt, lawer ohonynt, yn ddigon rhugl eu Cymraeg i dderbyn addysg uwchradd mewn ysgol ddwyieithog.

Mae'r gêmau'n addas ar gyfer plant Y Blynyddoedd Cynnar sy'n rhugl eu Cymraeg, ac ar gyfer dysgwyr yng nghwmni rhieni/oedolion/athrawon.

Ond dwi'n siarad Arabeg yn rhugl; fase neb yn coelio mai Cymraes ydw i.

Hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl, byddai eu hanner yn llenwi ffurflen trwyddedu cerbyd yn Saesneg, yn rhannol oherwydd eu bod yn credu fod y fersiwn Saesneg yn eglurach na'r un Cymraeg.

Er bod 18% o'r rhai a ymatebodd yn eu hystyried eu hunain ar hyn o bryd yn rhugl, dywedodd 3% arall iddynt fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn y gorffennol.

Mewn degawd mae'r ferch a aned yn Llundain i rieni o India'r Gorllewin wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, yn dysgu'r iaith yn ysgol uwchradd Cantonian Caerdydd ac yn cyflwyno ei rhaglen radio ei hun.

Mae hyn yn helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nealltwriaeth dysgwr o'r Gymraeg a hefyd yn atgoffa darllenwr sy'n rhugl o amrywiaeth a chyfoeth ein hiaith.

Cymeriad annwyl iawn ydoedd, a gŵr disglair, â chanddo gynt swydd uchel mewn banc yn Hong Kong, ac yn medru Tseinaeg yn rhugl.

A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.