Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhuo

rhuo

Aros mae'r mynyddau mawr, rhuo drostynt mae y gwynt..." "Ond bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn," parhaodd Snowt.

Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.

NEIDIWCH!' Roedd yn rhaid i'r hyfforddwr parasiwt weiddi am fod peiriant yr awyren yn rhuo cymaint.

Anghofia'i byth y teimlad ofnadwy o ofn oedd arnaf wrth weld yr anifeiliaid gwyllt, er eu bod mewn cewyll, a gweld dyn yn mynd i fewn at y llewod, a hwythau yn gwneud yn ol gorchymyn y "trainer", a chlywed y llew yn rhuo.

Prin roedd e wedi mynd hanner can llath cyn y clywid rhuo mawr ar y mynydd uwch ei ben.

Siawns na fydd rhywun wedi 'nghlywed yn taro'r môr." Ond roedd rhuo'r propelor wrth gorddi'r tonnau wedi boddi ei sŵn yn cwympo o'r British Monarch.

Mi fyddaf yn falch o gael cyflawni fy neges yn y ddinas fawr, brysur, ac ar fy ffordd adref, i'r pentref croesawus lle gallaf gerdded yn eithaf diogel uwch y creigiau, a gwrando ar y môr yn rhuo, ac, ar brynhawn sych, heulog, fy mhleser fydd cerdded ar lan Afon Ogwr a chael ailfywhad o gerdded ar draeth Bae y Gorffwysfa ym Mhorthcawl.

Fe giliai yn ddyfnach i'r cochni a'r rhuo.

Ar adeg arall daeth merch fach ato, yn erfyn am y bêl hud, a hyd yn oed yn cynnig yn ei lle ryw lew tegan a'i ben yn symud, ac yn rhuo fel llew byw.

Gwibiodd y fan ar hyd y strydoedd a'i seiren yn rhuo a fflachio.

Y funud y gwelodd Idris, dyma'r cawr ar ei draed, yn rhuo fel tarw, yn chwifio'r ordd uwch ei ben, a'i lygaid yn melltennu.

Gwelodd y ddraig nhw'n dod a rhuo'n heriol.

Wrth deithio trwy Lanfair-pwll, a cheisio darllen enw llawn anhygoel y pentref hwn, clywir llais yn rhuo yn y pellter.

Wrth weld a chlywed y moduron yn rhuo heibio iddynt mor agos, daeth hiraeth ar y plant am fod yn ôl ar yr ynys, yng ngwynt y môr, gweld yr adar, a Llwyd a'r anifeiliaid eraill.

Cododd ran uchaf ei chorff gwyrdd a rhuo buddugoliaeth.

Ond pan gafwyd organ yn y capel, a honno'n rhuo yn nhwll ei glust, digiodd yn bwt wrth 'y ddelw fawr Deiana' fel y galwai ef hi, ac aeth am yr eglwys.

Efallai mai'r sŵn rhuo a'i cadwai'n ddiogel.

A'r rhuo hefyd, yn distewi, yn cilio yn sgil y niwl caredig.