Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhuthr

rhuthr

Ar ddydd golau, yn sŵn traffig a phobl a rhuthr fedrech chi mo'i chlywed, ond yn y tawelwch, roedd miwsig yr afon yn llithro dros y cerrig i'w glywed yn glir.

Heb unrhyw amheuaeth, yr oedd y Rhyfel yn grwsâd yn erbyn rhuthr y gwrth Dduw Natsi%aidd, a gelyn rhyddid, ond ymofidiodd am fod canlyniadau'r Rhyfel, sef casineb, rhagfarn, bydolrwydd, anobaith, colli ffydd yn Nuw a dyn, pylu'r ddeddf foesol a diystyru'r ysbrydol ar gynnydd.

Profodd byddin yr heddlu yn rhy gryf iddynt, ond pan oedd y seremoni yn dechrau ni allai neb na dim atal eu rhuthr i lawr y llethrau i dynnu'r pafiliwn i lawr a dinistrio'r seremoni.

Defnyddiodd y bardd y gynghanedd i gyfleu rhuthr a grym y peiriannau yn effeithiol.

Cefais gryn fraw o gofio'r wefr a'r rhuthr sydyn o adrenalin a brofais wrth brynu chwe phecyn o gardiau 'Dolig ym mis Awst.