Rhuthrais innau i mewn gyda'r cyntaf a dangosais i fechgyn y Cei fy mod o leiaf yn gallu marchogaeth ceffyl a hynny nid yn eistedd ond yn sefyll ar ei gefn.
Bron ddeugain mlynedd yn ôl, dan gyfaredd Buchedd Garmon, rhuthrais i brynu Siwan a Cherddi Eraill.
Yn sydyn rhuthrais am un o'r giwed, ac wedi gafael ynddo a'i wasgu, yn ôl cyfarwyddiadau Capten, mi rois hergwd iddo â'm holl nerth, nes peri iddo syrthio ar ei hyd ar lawr.
Dywedais wrth Jock am gadw'i lygaid yn agored rhag i 'Gwep Babi' ddod yn ôl, a rhuthrais at waelod y to lle'r oedd y ferch erbyn hyn yn gwyro trosodd, a bron syrthio bendramwnwgl i'r iard.
A'r munud cyntaf y cefais fynediad rhuthrais i fyny'r ysgol i'r llofft.