Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwbio

rhwbio

"Os y dyn sy'n gorffen y berthynas, byddai'n rhwbio halen yn y briw i ofyn am y fodrwy yn ôl," meddir.

Maent yn rhwbio eu hunain gymaint fel iddynt golli gwlan a dirywio yn eu cyflwr yn gyflym iawn.

Wrth ei godi'n ofalus roedden nhw'n synnu ac yn llawenhau pan riddfannodd y bugail a rhwbio ei lygaid.

Taflodd e dros ei phen a dechrau rhwbio'i gwallt i'w sychu.

Blas chwerw sydd iddynt, a theimlad sebonllyd wrth i chwi eu rhwbio rhwng eich bysedd.

Ta beth, fel yr oedd Dada'n dwrdio yr oedd Anti yn dawel yn rhwbio ei gefn, fel ag i'w gysuro.

Cofiai Myrddin Tomos am ddefaid yn pryfedu; am eu dwyn i fuarth y fferm, eu dal, torri'r gwlân o amgylch y cynrhon a oedd wedi ymgladddu yn y cnawd, eu pigo allan â'r gwellau a rhwbio pridd melyn yn y man pryfedig.

Safodd Gwyn gan agor ei geg a rhwbio ei lygaid yn flinedig.

Yn ôl be' ma' rhywun yn 'i ddallt mae cynhyrchydd y rhaglen, er bod hwnnw'n dad i ddau o blant, yn rhwbio ynddi.

Daeth dagrau o boen i'w llygaid wrth iddi sythu a rhwbio'i phen.

Mae'n wir ddrwg gen i.' Gafaelodd yn dyner yn ei garddwrn i'w hatal rhag rhwbio.' Rydw i'n fwy pengaled na chi, mae'n amlwg.

Dywedai gofio yn iawn i Mrs Williams roi gwiniadur ar ei bys a rhwbio gyms y ferch fach.

Tynhaodd PC Llong ewynnau ei ên a rhwbio'i arlais yn ffyrnig.

Tra roeddwn i'n newid, fe ddaeth Negro i mewn, a rhwbio yn fy nghoesau i, a dechrau canu grwndi fel yr oedd o'n ymwthio'n gorff yn erbyn fy nghrothau i.