Bwrw dwy awr neu well ar y copa, ac yna disgyn yn ochelgar dros y graig eilwaith, gan mai'r peth rhwyddaf yn y byd oedd colli golwg ar y llwybr i waered, heb sôn am ysigo sawdl neu dorri coes.
Gan ei fod yn un o'r llwybrau mul a sled pwysicaf yn yr hen ddyddiau, mae'r Scaletta ymhlith y rhwyddaf o fylchau uchel y Grisiwn i gerddwr.