Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwydwaith

rhwydwaith

O ganlyniad, mae'r cwmni%au ffôn ar hyn o bryd yn newid ein rhwydwaith genedlaethol o wifrau am rwydwaith o ffibrau optegol, ac mae sôn am ddod â ffibrau i'r cartref cyn hir er mwyn i ni fwynhau (os mai hwnnw yw'r gair) sianeli teledu di-ri a chysylltiadau cyfrifiadurol â'r byd y tu allan.

Mae rhwydwaith o ganolfannau iechyd yn yr ardaloedd gwledig, a polyclinics yn y trefi, sy'n cynnig gofal iechyd o safon i bawb, am ddim.

* Helpu unigolion i ddatblygu a chynnal rhwydwaith eang o gysylltiadau cymdeithasol a pherthnasau personol - o gysylltiadau a chyfeillgarwch anffurfiol ac achlysurol i berthnasau tymor-hir.

Gosodwyd rhwydwaith cyfrifiadur yn y swyddfa ym Mhenygroes.

Agwedd Ragweithiol: Cymera'r Adain hon agwedd ragweithiol tuag at ddarparu rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd sy'n integreiddiedig ac yn gynhwysfawr.

Ar yr un pryd rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llundain i sicrhau y caiff Cymru ei phriod le ymhob cynnyrch rhwydwaith.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn ein darllediadau rhwydwaith, ar y radio ar teledu.

Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.

Yn ychwanegol at y dosbarthiadau traddodiadol ceir rhwydwaith o ddosbarthiadau yn y gweithleoedd, ac fel rhan o hyfforddiant mewn swydd.

Oni ellid cynnwys prydferthwch, rhyddid, pechod, dyn a Duw, y tu mewn i'r rhwydwaith hwn, rhaid dyfarnu eu bod yn afreal.

O ganlyniad i'r newidiadau mawr a ddilynodd gau'r Gors yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, crewyd rhwydwaith gymhleth o sianelau geometrig.

Dangoswyd y ffilm (a enillodd wobr Bafta Cymru eleni am y Sinematograffi Gorau: Ffeithiol a'r Rhaglen Ddogfen Orau yn y Coupe Icare Festival International du Film de Vol Libre), ar y rhwydwaith.

(ii) Adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Cynllunio bod y Cyngor, mewn cydweithrediad gyda'r Cyngor Sir a'r cynghorau cymuned, wedi gwneud arolwg llawn o holl lwybrau cyhoeddus y Dosbarth gyda'r bwriad o resymoli'r rhwydwaith a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr.

Datgelwyd un o drysorau cudd Cymru yn Aberglasney: A Garden Lost in Time, a ddarlledwyd ar draws y rhwydwaith.

Bu hon yn flwyddyn dda i gynyrchiadau rhwydwaith BBC Cymru, gyda llwyddiannau arbennig yn y genres rhaglenni cerddoriaeth a ffeithiol.

Dyna sy'n digwydd wrth i'r wy gael ei dwymo - mae'r pelenni yn datgymalu ac mae bondiau hydrogen yn gludio'r rhaffau wrth ei gilydd i ffurfio rhwydwaith eang.

Mae'r aelodau'n parhau i deimlo nad yw rhaglennu rhwydwaith y BBC yn gwasanaethu Cymru gyfan yn ddigonol, ac mae dyfodiad datganoli yn cynnig sialens newydd i adlewyrchu ac i wasanaethu Cymru a'i thalentau ar wasanaethau rhwydwaith.

Mae rhwydwaith Afon Cefni, un o brif afonydd Môn, yn gymhleth iawn.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn ein darllediadau rhwydwaith, ar y radio a'r teledu.

Dyma oedd amod perthyn i'r rhwydwaith arbennig yma o Gymry Cymraeg.

Roedd un o storïau mwyaf dwys y flwyddyn, hanes dychrynllyd Josie Russell ond un sy'n rhoi hwb i'n gobeithion yn bwnc rhaglenni radio a theledu rhwydwaith: adroddodd Josie's Story yr hanes ar BBC Un a defnyddiodd BBC Radio 4 ddyddiaduron personol a theimladwy Shaun a Josie Russell yn Life with Josie.

Yn yr un modd mewn ardaloedd di-Gymraeg, gallasai'r peuoedd hyn weithredu fel sylfaen i ail-sefydlu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg allasai greu impetws ieithyddol deinamig.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, defnyddiwyd cyfweliad y golygydd gwleidyddol Glyn Mathias gydag ef gan holl rwydwaith y BBC. Ar draws y gwasanaethau teledu a radio, yn y ddwy iaith, cafwyd cydlynu effeithiol gyda newyddion rhwydwaith y BBC a golygai hyn bod dimensiwn Cymreig y stori wedi ei archwilio'n llawn ynghyd ag ongl Llundain.

Bu rhai gorchestion gwerth eu nodi hefyd ar Radio Rhwydwaith.

Enghraifft nodedig o'r cychwyn hwn yw'r rhwydwaith papurau bro sy'n britho Cymru heddiw ac sy'n cynnal yn eu sgîl weithgareddau niferus ac amrywiol a phob un ohonynt yn hybu Cymreictod.

Yn ei swyddfa, mae yna gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu â rhwydwaith gwybodaeth rhyngwladol o'r enw FIND.

Delfryd Cymdeithas Ddrama Cymru yw cofrestru pob cwmni drama yng Nghymru a sefydlu rhwydwaith gref o gysylltiadau trwy'r wlad.

Yn anffodus, os oes pellter rhy faith rhwng y trawsyrrydd a'r derbynnydd yn y rhwydwaith ffôn collir gormod o oleuni ar hyd y ffibr ac aiff y neges ar goll.

yn hytrach, y bwriad yw sefydlu cyswllt agos gyda gyda, busnesau bach a cholegau ledled cymru ar ffurf rhwydwaith, " meddai.

Gyda chynnydd mewn poblogaeth, diwydiant, technoleg ac angen yn y Gogledd Orllewin; a chan fod rhwydwaith y nentydd a'r dyffrynnoedd pantiog bychan yn ddelfrydol i'w boddi...

Dyma'r lefel uchaf o gynnyrch rhwydwaith y mae unrhyw ddarlledwr Cymreig wedi ei gyflawni erioed ac mae'n arwydd o'n huchelgais yn y dyfodol, meddai Geraint Talfan Davies.

Roeddwn yn arbennig o falch o'r ffordd y chwaraeodd Cyngor Darlledu Cymru ei ran yn y trafodaethau ar y cyfleoedd newydd sydd yn awr ar gael i'r rhwydwaith ac i wasanaethau radio a theledu Cymru yn y ddwy iaith, a bydd yr aelodau'n monitro'r ffordd y portreadir perthnasedd materion newyddion amrywiol i gynulleidfaoedd mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol yn agos iawn.

Roedd hyn hefyd yn thema amlwg yng ngwaith BBC Cymru yn ystod y flwyddyn wrth i'w dimau cynhyrchu ddenu'r nifer mwyaf erioed o gomisiynau gan rwydweithiau radio a theledu'r BBC. Mae'r gostyngiad ymddangosiadol mewn cynyrchiadau rhwydwaith yn deillio o amseru cyflwyno'r cynyrchiadau a dylai'r flwyddyn nesaf fod yn un llewyrchus iawn.

Cafodd y rhwydwaith ei feirniadu oherwydd iddyn nhw golli 1.3m o wylwyr ar ôl symud i 11 o'r gloch.

Mae Pobol y Cwm yn parhau yn flaenllaw ymysg y deg rhaglen sy'n cael eu gwylio fwyaf ar S4C, ac mae'r ffaith bod cynhyrchydd operâu sebon rhwydwaith profiadol wedi'i recriwtio i'r gyfres yn awgrymu y bydd yn parhau yn ei safle cadarn.

Un canlyniad i hyn yw fod perygl datgymalu'r rhwydwaith o athrawon cynhaliol a sefydlwyd dros nifer o flynyddoedd mewn awdurdodau addysg lleol.

Mae Pobol y Cwm yn parhau yn flaenllaw ymysg y deg rhaglen syn cael eu gwylio fwyaf ar S4C, ac mae'r ffaith bod cynhyrchydd operâu sebon rhwydwaith profiadol wedii recriwtio i'r gyfres yn awgrymu y bydd yn parhau yn ei safle cadarn.

Gweithredu y strategaeth cyflenwi rhwydwaith y cytunwyd arni i ychwanegu at gynyrchiadau rhwydwaith gan BBC Cymru.

Yn dilyn nifer o flynyddoedd lle rydym wedi ymgyrchu dros fwy o gomisiynau rhwydwaith, maen galonogol gweld y nifer uchaf erioed o raglenni BBC Cymru a gynhyrchwyd ar gyfer rhwydweithiau radio a theledur DG. o'r diwedd ailgomisiynwyd cyfres ddrama, ar gobaith yw y bydd y buddsoddiad mewn datblygu a thalent dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn creu cynnydd pellach yn y maes hwn.

Mae mwy nag erioed o gynyrchiadau teledu Saesneg wedi derbyn cyfran uwch o'r gynulleidfa nag a gafwyd i raglenni rhwydwaith a ddarlledwyd ar yr un pryd.

Rhwydwaith Coleg Digidol Cymru - enghraifft wych o gydweithio rhwng sefydliadau ym meysydd addysg, technoleg a darlledu.

Nod BBC Cymru ers tro yw sicrhau bod delweddau Cymru, ei llais a'i chalon, yn cael eu gweld a'u clywed trwy'r DG. Roedd y flwyddyn a fu, pan ddenwyd y nifer mwyaf erioed o archebion radio a theledu rhwydwaith, felly, yn hynod galonogol.

Gydag amser, bydd pob newyddiadurwr yn meithrin rhwydwaith o gyfeillion mewn swyddi allweddol y gall ddibynnu arnynt i roi gwybod iddo am ddigwyddiadau.

sefydlir rhwydwaith gyda gyda addysg bellach ac uwch rwy gymru er mwyn cefnogi a datblygu gweithgareddau presennol ac i osgoi datblygu gwastraffus.

Mae BBC Cymru wedi creu rhaglenni unigol eraill i'r rhwydwaith, a ddangoswyd gyntaf yng Nghymru.

Y mae dadansoddiad o nodau uchder ar fapiau AO, fel yr enwau Glan-yr-afon a Rhyd Lydan, yn tystio ymhellach i'r ffaith mai i'r gorllewin o'r llwybr presennol y gorweddai llwybr gwreiddiol Afon Cefni o ad-drefnu'r rhwydwaith traenio crewyd sianelau dwr hollol newydd, sianelau y rhoddwyd enwau penodol iddynt.

Ar rwydwaith, o ganlyniad i gydweithrediad gyda chynhyrchydd annibynnol, ailgomisiynwyd y ddrama i blant, The Magicians House, a chafwyd arwyddion cadarnhaol yn Jack of Hearts a Dirty Work. Gwelwyd datblygiad ardderchog mewn genres eraill hefyd, gan gyflawnir nifer uchaf erioed o gomisiynau rhwydwaith ar gyfer radio a theledu ym 1999/2000.

Roedd Nadolig 1998 yn Nadolig BBC Cymru mewn sawl ffordd ar deledu rhwydwaith gyda llu o raglenni gan dîm cynhyrchu cerddoriaeth BBC Cymru - unig Ganolfan Ragoriaeth benodol y BBC ar gyfer cynhyrchu cerddoriaeth y tu allan i Lundain.

Mae tîm arlein BBC Cymru yn parhau i ennill comisiynau i ddarparu gwefannau ar gyfer Rhwydwaith y BBC.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Aberdaron yn gofyn i'r Cyngor ystyried y posibilrwydd o resymoli y rhwydwaith llwybrau ac o ble y daw'r cyllid i wario cymaint arnynt.

Ond, cadarnhaodd datganiad arall o enau'r Ysgrifennydd Cartref fod rhaid i'r Llywodraeth amddiffyn bywyd, eiddo'r cwmniau rheilffyrdd, a'r rhwydwaith er dosbarthu bwyd.

Mae'r Cyngor yn falch bod talent cynhyrchu newydd wedi ei ddenu i'r sebon dyddiol Pobol y Cwm gan fod y rhaglen honno hefyd yn wynebu cystadleuaeth fwy ffyrnig o'r rhwydwaith am ei chynulleidfa min nos.

Roedd rhaglenni nodwedd radio, hefyd, yn amlwg ar y rhwydwaith.

Er mai rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol Cymreig a Chymraeg yw stiwdio'r gogledd, bu yma erioed rhyw ymdeimlad o arwahanrwydd ac annibyniaeth.

Hysbyswyd yr aelodau gan y Cadeirydd fod y Rheolwr ar hyn o bryd yn gohebu a BT i geisio trefnu Rhwydwaith FFon ar gyfer Canolfannau Cynghori Meirionnydd h.y.

Os bydd hylif fel llefrith wedi ei gymysgu gyda'r wy yna, wrth ei dwymo, bydd yr hylif yn cael ei ddal yn y rhwydwaith ac fe gewch gwstard.

mae'r penderfyniad i benodi cynhyrchydd newydd gyda phrofiad helaeth o operâu sebon teledu rhwydwaith yn dwyn ffrwyth, ac mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at welliannau pellach i straeon, cymeriadau a thechnegau cynhyrchu dros y flwyddyn nesaf.

Gobeithid y byddai BT yn noddi sefydlu rhwydwaith o'r fath.

Dangosodd y llwyddiant ym maes rhaglenni dogfen ffeithiol y cysylltiad rhwng rhaglenni rhwydwaith a'r rhai a gomisiynwyd yng Nghymru i Gymru; rhaglenni megis The Man Who Jumped to Earth - stori anhygoel Eric Jones o Dremadog ac yntau'n 61 mlwydd oed a chanddo'r freuddwyd o neidio oddi ar Raeadrau Angel yn Venezuela sy'n 3,212tr o uchder.

(c) Rhwydwaith Llwybrau CYFLWYNWYD

Wrth gwrs, nid pawb sydd o fewn cyrraedd i lyfrgell, ac mae'r Gwasanaeth yn darparu rhwydwaith o lyfrgelloedd teithiol ar gyfer y rhai hynny sy'n byw mwy na dwy filltir o adeilad llyfrgell.

a) Cydlynu a chefnogi rhwydwaith gweithgareddau'r canghennau lleol drwy ymweld â hwy'n gyson yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar y cyd i holl ganghennau'r ardal, megis nosweithiau Cabaret, a theithiau i Sain Ffagan.

Aberglasney: A Garden Lost in Time - William Wilkins Gwelwyd ffrwyth y ddaear o wahanol fath yn Aberglasney: A Garden Lost in Time, cyfres ardderchog a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer BBC Cymru a ddangoswyd hefyd ar y rhwydwaith.

Er mwyn cyrchu at ein nodau gorgyffwrdd yn y modd mwyaf effeithiol posib, ymroddwn i weithio'n egniol tuag at greu rhwydwaith effeithiol o ddarparwyr, er lles y defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyn.

Mae nifer yr oriau a gomisiynwyd wedi cynyddu o 37 i 70, sy'n werth £16.03 miliwn o incwm y rhwydwaith.

Mae angen i'r BBC ddatblygu camau nesaf y broses o drosglwyddo BBC Radio Wales i FM ar fyrder, i'w wneud yn fwy cystadleuol, ac o ran radio digidol, gwna'r Cyngor bopeth posibl i gefnogi nod pendant BBC Darlledu o ddarparu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru digidol ar yr un pryd â fersiynau digidol gwasanaethau rhwydwaith y BBC.

mae'r argymhellion hyn yn ffrwyth gwaith ymchwil trylwyr a gadarnhaodd yr angen am y fath ganolfan, a'r galw am y gwasanaethau, " meddai mae'r prosiect, sydd wedi ei ariannu am flwyddyn, yn creu dulliau o addasu deunydd dysgu mewn ffurf y gall sawl coleg ei ddefnyddio yn ogystal â datblygu rhwydwaith gynorthwyol i ddarlithwyr.